Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chyfansoddwr llawer o ganeuon, megys "Dic Sion Dafydd," a "Sesiwn yng Nghymru," &c, Daeth Robert Oliver cyn hir i gymydogaeth Pentre y Foelas. Yno yr oedd Plas Iolyn, cartref y Dr. Coch, un o reolwyr yr Eisteddfod a gynaliwyd yng Nghaerwys yn 1568, drwy awdurdod y Frenhines Elizabeth. Yr oedd Thomas Price, mab y Dr. Coch, yn fardd rhagorol yn ei ddydd. Yn y Foelas y preswyliai y Wyniaid dros oesoedd lawer. Rhwng Pentre y Foelas a Betws y Coed y trigai yr erlidiwr mawr o Rydlanfair, yr hwn a wnaeth ymosodiad beiddgar ar y Dr. Lewis, Robert Roberts Tyddyn y Felin, Azariah Sadrach, ac eraill. Wedi i Robert Oliver gyrhaeddyd Betws y Coed, yr hwn nid oedd y pryd hwnnw ond lle bychan iawn, gan nad oedd eto ond cynnar yn y prydnawn, penderfynodd yr ai mor bell a Chapel Curig i orffwys. y noson honno.

Cychwynnodd, a dringodd heibio i Raiadr y Wennol, lle y dywedir ddarfod offrymu ysbryd un o Wyniaid Gwydir, a'r lle, meddir, y mae efe, a'r rhaiadr yn ewynu drosto er ys yn agos i 300 mlynedd bellach. Ond rhaid cael ffydd wahanol i ffydd y dyddiau presennol i dderbyn peth fel yna fel gwirionedd. Aeth y teithiwr ymlaen gan ddarllen, a chroesodd yr afon wrth y Ty Hyll: ond cyn pen hir, dyrchafodd ei olwg oddiar ei lyfr, a gwelai mewn caegerllaw y ffordd ffynnon o ddwfr gloewlas, a llawer iawn o ferw y dwr yn tyfu yn ei gofer. Yr oedd ganddo fara a chaws yn ei logell, a chan ei bod yn adeg prydnawnfwyd, efe a ddringodd dros y clawdd. ac a roddes ei sypyn dillad a'i lyfr ar lawr, ac a ddechreuodd fwyta o ddifrif. Wedi i'r wledd derfynu, ac i ferw y dwr gael eu trethu yn bur drwm, cododd ac aeth ymaith; ond, yn anffodus, ni chofiodd ddim am y llyfr nes ydoedd yng Nghapel Curig; ac erbyn hynny