AP VYCHAN.
——————
'COFNODION BYRION AM RAI O'R AMGYLCHIADAU YN HANES FY MYWYD SYDD YN FWY ADNABYDDUS I MI FY HUNAN NAG YDYNT I BOBL ERAILL.
AB ydwyf fi i Dafydd Thomas, gynt o
Ty'n y Gwynt, Llangower, swydd Feirionnydd, a Mary Roberts o'r Ty Coch, Pennantlliw Bach, Llanuwchllyn, y ddau
yn frodorion o Benllyn. Rhieni fy nhad
oedd Thomas a Margaret Roberts o Ty'n y Gwynt.
Nid oes nemawr i'w goffau am danynt ond eu bod yn
trin tyddyn bychan, eu bod yn aelodau yn Hen Gapel
Llanuwchllyn, ac yn bobl dduwiol. Yr oeddynt yn
dra gofalus am gynnal i fyny addoliad teuluaidd.
Arferent ganu emyn yn eu gwasanaeth crefyddol.
Fy nain fyddai yn dechreu y gân. Bu iddynt saith
o blant heblaw fy nhad. Mae dwy chwaer ì fy nhad
eto yn fyw; un o'r enw Susannah Thomas, sydd yn
preswylio, hi a'i gwr, yn nhy capel y Methodistiaid ym Moel y Garnedd, gerllaw y Bala; a'r llall, Margaret
Thomas, yn byw yng Nghendl, swydd Fynwy, ac yn
adnabyddus i lawer wrth yr enw "Begws o'r Bala."
Rhieni fy mam oedd Robert Oliver, a Margaret ei wraig, o'r Ty Coch, Pennantlliw Bach, fel y nodwyd