Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

uchod. Yr oeddynt hwythau yn aelodau yn Hen Gapel Llanuwchllyn, ac yn addoli Duw yn eu ty yn gystal ag yn y capel. Trin tyddyn bychan yr oeddynt hwythau. Ganwyd fy nhad Rhagfyr 29ain, 1782, a fy mam Ionawr 2, 1785. Ychydig iawn o fanteision addysg a gawsant yn eu hieuenctyd; ond dysgwyd hwy i ddarllen Cymraeg yn dda. Tair wythnos o ysgol ddyddiol a gafodd fy nhad, ond troes allan yn hunan-ddysgydd rhagorol. Deallai ramadeg iaith ei fam, rheolau barddoniaeth ei wlad, a chasglodd lawer o wybodaeth gyffredinol; ond rhagorai yn fawr fel duwinydd. Ysgrifennai law deg a gwastadlefn, sillebai yn gywir, a chyfansoddodd aml ddernyn barddonol, caeth a rhydd, yn ei dymor, a chyhoeddwyd amryw o honynt.

Dynes gref, iachus, galonnog, siriol dros ben, weithgar, a gofalus am ei theulu, ydoedd fy mam. Rhagorai fy nhad arni mewn amryw bethau, ond rhagorai hithau arno yntau mewn pethau eraill, yn enwedig mewn gwroldeb meddyliol, a medrusrwydd i osod ei meddwl allan mewn ymadroddion cryfion a hylithr. Priodwyd fy rhieni yn y flwyddyn 1805, a buont fyw gyda eu gilydd yn ddedwydd iawn, er gwaethaf caledfyd a thlodi, a llawer o amrywiol wasgfeuon, am y tymor maith o ddeunaw mlynedd a deugain. Ganwyd iddynt ddeg o blant—pump o feibion a phump o ferched,—ond bu feirw tair o'u merched a dau o'u meibion tra yr oedd y rhieni eto yn fyw. Mae y pump eraill, wedi cael help gan Dduw, yn aros hyd y dydd hwn, dau yn America, a thri yn Nghymru. Mae fy mrawd Ellis Thomas yn ddiacon defnyddiol gyda Dr. Gwesyn Jones yn Utica, talaeth New York, ac yn meddu gradd eang o'r ddawn farddonol; ac y mae fy mrawd Evan Thomas yn grefyddwr da yn Meifod,