Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HEN GYMYDOG.

Ychydig o Adgofion am y Diweddar Barchedig Morris Roberts, Remsen, yn Nhalaeth New York.

𝕻RIN hefyd y mae y gair Parchedig yn angenrheidiol o flaen enw Morris Roberts. Gall y gair hwnnw fod o ryw wasanaeth i ambell un, ddangos i eraill i ba ddosbarth o ddynolryw y perthyna; ond ni all roddi nemawr o bwys nac o urddas ar enw y brawd o Remsen. Gall dynion o'i fath ef sefyll yn ddiysgog ym mharch a sylw eu cydwladwyr, ar sail yr hynodion perthynol iddynt, a'r rhai a'u gwahaniaethant oddiwrth bawb eraill a restrir yn yr un dosbarth a hwynt. Yr oedd Morris Roberts yn cael ei barchu a'i anwylo yn ein teulu ni, er dechreuad ei fywyd cyhoeddus fel pregethwr yr efengyl. Yr oedd amryw bethau yn peri hynny. Yr oedd dynoliaeth yn ei hurddas a'i gogoniant ynddo. Meddai ar athrylith gref a gloew, a dawn gwreiddiol, yn perthyn yn neillduol iddo ef ei hunan; ac heblaw hynny, yr oedd yn berthynas agos i ni yn ol y cnawd. Yr oedd ei dad ef, a'n nain ninnau, o ochr ein tad, yn frawd a chwaer; felly, yr ydoedd yn ewythr i ni o gefnder ein tad.

Y cof cyntaf sydd gennyf fi am Morris Roberts ydyw ei fod yn gwasanaethu gydag un Thomas Cadwaladr, o'r Wern, Pennantlliw Fawr, Llanuwchllyn. Pan yn aros yn y Wern, anfonwyd ef ar fore Sabbath i hebrwng ceffyl i'r mynydd a elwir Ffridd Helyg y Moch. Tebygol yw ei fod yn myned i edrych beth oedd helynt anifeiliaid eraill oeddynt eisioes wedi eu hanfon i'r mynydd hwnnw; oblegid anhawdd gennyf gredu y buasai yr hen frawd o'r Wern yn anfon ei was ar