Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y Sabbath, yn unewydd, i hebrwng y march i'r mynydd. Yr oedd yn rhaid i Morris Roberts groesi yr afon Liw, drwy ryd oedd ychydig uwchlaw yr Elusendy, ac yr oedd llifeiriant cryf yn yr afon y bore hwnnw. Gorchfygodd y llif y march, a chariodd ef i sarn oedd yn croesi yr afon yn gyfochrog â'r rhyd, nes y dadymchwelwyd yr anifail a'i farchog i'r rhyferthwy. Rhoddodd Morris Roberts waedd ofnadwy pan yn myned i'r llifeiriant—gwaedd a glybuwyd gan yr holl bobl oedd yn byw yn y tai agosaf at y lle. Brysiodd llawer i lawr at yr afon; ond erbyn eu dyfod i'r fan, yr oedd y march a'r marehogwr wedi dyfod yn ddiogel i dir. Cludasid Morris Roberts gan y rhyferthwy am gryn dipyn o ffordd, tua'r llyn dwfn a pheryglus a elwir y Llyn Du; ond digwyddodd, pe digwydd hefyd, fod helyg yn tyfu ar fin yr afon, ac yn ymestyn am ychydig dros y dwfr. Cafodd y llanc dychrynedig afael mewn cangen o'r coed gwydnion hynny. Daliodd y gangen bwysau y llanc, a gallodd ddyfod i'r lan drwy hongian wrthi, ac ymweithio nes nes at y tir, nes ei gyrhaeddyd. Dyna waredigaeth hynod o ragluniaethol i ddyn a ddaeth, wedi hynny, yn un o brif bregethwyr Cymru, yn gyntaf oll, ac wedi iddo ymfudo i America, a fu am dymor hir yno yn ddefnyddiol dros ben. Gadawodd Morris Roberts Lanuwchllyn, ac a aeth i wasanaethu i Fryn Llin, yr hwn sydd dyddyndy yn ochr Cwm yr Allt Lwyd. Lle mynyddig a gwyllt iawn yw Bryn Llin; pan oedd yno yr ymunodd â chrefydd, y dechreuodd bregethu, ac y priododd fam ei blant. Yr oedd ysbryd gweddi yn dechreu defnynu o'r nefoedd ar lawer yn yr ardaloedd cysylltiedig â Bryn Llin; ond ni ddisgynnai nemawr o hono, eto, ar Morris Roberts. Dywedodd wrthyf fod ei gydwybod yn ei gyhuddo yn aml am nad oedd