yn gweddio ond ychydig iawn, a bod argyhoeddiad yn ei feddwl y dylasai weddio yn llawer amlach, ac yn llawer taerach hefyd. Ar ddechreu un haf, ac yntau mewn gweirlan, efe a blygodd ar ei liniau wrth ochr eileyn o wair rhos oedd yno yn aros, wedi i'r gwartheg gael eu troi allan i'r borfa, i geisio cyflawni y ddyledswydd o weddio, er mwyn tawelu ei gydwybod, ac i gael gwybod beth yw y da hwnnw i feibion dynion a gynhwysir yn y gorchwyl o weddio. Deddfo iawn, mi debygwn, oedd yr ymgais hwn o'i eiddo i weddio Duw. Wedi cyfodi oddiar ei liniau, teimlai mai dyna y gorchwyl diflasaf yr ymatlasai ynddo erioed, ac na fuasai waeth ganddo geisio bwyta y eilcyn gweddill hwnnw o'r gwair rhos, na myned i gyflawni y gorchwyl o weddio drosodd drachefn. Ond tywalltwyd arno ef yn helaeth, cyn hir, ysbryd gras a gweddiau; yna daeth y gorchwyl o weddio mor hawdd a naturiol iddo ag anadlu. Cyn hir, daeth y newydd dros y Defeidiog, gyda yr awel, fod Morris Roberts ymysg plant y diwygiad, yn gorfoleddu llawer, yn annerch y cyfarfodydd gweddio, a'i fod yn dechreu pregethu yr efengyl.
Yr oedd pobl Llanuwchllyn yn llawenychu o herwydd y pethau hyn; ond buasai ef yn uwch yng ngolwg llawer o bobl y ddwy Bennantlliw, pe buasai wedi ymuno â'r Eglwys Anibynnol ym Mhen y Stryd, yn hytrach na chyda y Methodistiaid Calfinaidd oddeutu Abergeirw, a Buarth yr E. Maddeuer i'r hen bobl symlion a selog dros neillduolion eu henwad, hyn o gyfyngder yn eu hysbryd crefyddol, gan gofio fod y rhan luosocaf o honom ninnau yn teimlo hefyd, yn y dyddiau rhydd a diragfarn presenol, neu fel y gelwir hi "yr oes oleu hon," wedi y cyfan, mai "nes penelin nag arddwn."