Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ysbryd ar dy fustych ac ar dy hyrddod di, ond fe dywallt ei Ysbryd ar dy blant di, a hwy yw yr unig wrthddrychau ar dy elw di y medr Duw dywallt ei Ysbryd arnynt." Clywais bregeth rymus ganddo ar nos cyfarfod ym Mangor, ar Num. xix. 12,—"Ymlanhaed trwy y dwfr hwnnw, y trydydd dydd." Yr oedd y dorf fawr wedi ymdoddi mewn dagrau, fel y cŵyr yn ngwres y tân. Yr oedd dynion cedyrn, na wybu dagran erioed am y ffordd i ddyfod allan o'u llygaid, a'u pennau yn ddyfroedd yn yr oedfa honno. Yr oedd yr olygfa yn anarluniadwy, felly ni cheisiaf ei phortreiadu. Ei ddarluniad o Naaman yn cael ei anfon gan Eliseus i'r Iorddonen i ymlanhau, "trwy y dwfr hwnnw," oedd un o'r pethau goreu a wrandewais i erioed. Gwelais effeithiau cyffelyb dan yr un bregeth yng nghymanfa y Wern. Ni ychwanegaf ond yn unig dywedyd fod yr olaf o berchenogion y dawn neillduol hwnnw wedi ewympo ym marwolaeth MORRIS ROBERTS.

——————♦——————

DIHANGODD.

(Ar farwolaeth ei briod.)

𝕾ANGODD draethell yr Iorddonen,
Syllodd ar eirwynder hon
Rhoes ei throed ar wddf yr angau,
Neidiodd o grafangau'r don;
Ac yng ngherbyd anfarwoldeb,
Gyda gosgordd purdeb gwawr,
Trwy ororau'r eangderau
Aeth i fannau'r anthem fawr.