Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond prin yr oedd yn ddigon o athronydd i wneud dadleuwr llwyddiannus, oddieithr ar bethau eglur yr Ysgrythyrau. Cof gennyf iddo, yn ein ty ni, gael y gwaethaf mewn dadl â'i gyfaill Edward Davies; mynnai ef fod Duw yn dwyn daioni allan o ddrygioni, ond mynnai ei gyfaill nad oes dim ond drwg i ddyfod allan o ddrwg, ac y rhaid i ddaioni darddu o ryw ffynnon arall, er y gall drygioni fod yn achlysur i amlygu daioni, ond na all fod yn ffynnon darddol y da o gwbl.

Yr oedd yn ddiau yn bregethwr ymarferol rhagorol iawn. Planhigyn ydoedd wedi tyfu ar ei ben ei hun yng Nghwm yr Allt Lwyd. Clywais ef yn pregethu ar y gair hwnnw, "Efe a lwnc angeu mewn buddugoliaeth;" darluniai angen fel rhyw wylltfil ysglyfaethus, a'i safn yn agored er dechreu y byd, ac yn llyncu yr holl oesoedd, ac nid oedd ei fol yn hanner llawn wedi y cwbl; ond pan aeth i geisio llyncu yr Arglwydd Iesu ar Galfaria, iddo gael allan ei fod yn ormod o damaid iddo, ac yn lle i angeu lyncu yr Iesu fe lyncodd yr Iesu angeu mewn buddugoliaeth. Cof gennyf ei fod yn pregethu ar y geiriau,—"Mi a dywalitaf fy Ysbryd ar dy had, a'm bendith ar dy hiliogaeth." Beiai rieni am eu bod yn cwyno yn aml fod ganddynt lawer o blant, yn lle diolch yn fawr i Dduw am danynt. "Gofynnwech," meddai, "i'r ffermwr yma faint o wartheg sy ganddo ar ei dyddyn. "O, dim ond o ddeugain i hanner cant i gyd." Faint o blant sydd gennych chwi? "O, mae gennyf BUMP o blant. Gofynnwch i un arall, Faint sydd gennych chwi o ddefaid ar y fferm yma? "O, dim ond rhyw saith gant i gyd." Faint sydd gennych chwi o blant? "Mae gennyf CHWECH o blant!" Wel, diolch yn fawr am danynt, ni thywallt yr Arglwydd byth mo'i