Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

nag oedd ei gondemnwyr. Yr wyf finnau heddyw yn barnu felly; ond ar yr un pryd, yr wyf yn golygu nad oedd Morris Roberts, ar y naill law, na'i wrthwynebwyr ar y llaw arall, yn deall y pynciau y dadleuent yn eu cylch mor drwyadl ag y dylasent eu deall, cyn dechreu cynhyrfu enwad crefyddol gyda'u dadleuon.

Ymadawodd Morris Roberts â Llanarmon, ac ymfudodd i America; ac yr oedd galar mawr gan lawer yn yr ardaloedd lle y llafuriasai oblegid ei ymadawiad, a derbyniodd garedigrwydd mawr oddiwrth amryw o'i gyfeillion yn yr amgylchiad hwnnw. Y mae yn fy meddiant rai llythyrau a ysgrifenodd ataf o America; ond nid ydynt o ddyddordeb digonol i'r cyhoedd i'w rhoddi yn y Wasg.

Pan ddaeth y brawd o Remsen drosodd, gyda'i gyfaill Mr. Davies, o Waterville, ar ymweliad â Chymru flynyddoedd yn ol, cefais i amryw o gyfleusderau i ymgydnabyddu ag ef. Bu yn aros yn fy nhy am rai dyddiau. Sylwais ei fod yn Werinwr trwyadl o ran ei olygiadau gwleidyddol, fel ei gynathraw, y Doctor Lewis. Nid oedd cyfansoddiad ein gwlad ni o werth dim yn ei olwg, mewn cymhariaeth i gyfansoddiad yr Unol Daleithiau. Yr oedd tuedd ynddo, weithiau, i fod braidd yn fyrbwyll mewn rhoddi barn ar bersonau a phethau. Yr oedd yn ddirwestwr trwyadl, ac yn gryn wrthwynebwr i ysmygu. Cyfodai yn fore iawn; ychydig o gwsg oedd yn angenrheidiol iddo; ac ni chai neb a fyddai yn cysgu gydag ef ddim cau ei amrantau ond anfynych, pryd y mynnai. Yr oedd yn gwybod cynifer o hanesion am hen frodyr a chwiorydd crefyddol fel y difyrrai ei gyfeillion trwy gydol y dydd a'i adrodiadau am danynt. Ni rusai ddadleu yn egniol dros ei olygiadau neillduol,