Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Deuai Morris Roberts o Drawsfynydd, yn achlysurol, i bregethu i'w hen gymydogion a'i gydnabyddion yn ardaloedd Llanuwchllyn, ac yr oedd pawb yn awyddus am ei glywed. Bu yn pregethu yn y Bryn Gwyn ac yn y Wern Ddu, yn y flwyddyn 1823, os nad wyf yn camgofio. Yr oedd hynodrwydd ei ddawn yn tynnu sylw cyffredinol.

Yn mhen ysbaid, symudodd ef a'i deulu i fyw i gymydogaeth Llanarmon Dyffryn Ceiriog, lle yr oedd yn fawr ei barch gan bob dosbarth o'r ardalwyr. Cefais i rywdro y pryd hwnnw wneuthur gwasanaeth bychan iddo; sef, pedoli yr anifail ar ba un y marchogai. Yng Nghroesoswallt y bu hynny; un o ferlod y mynydd-dir oedd yr anifail. Dywedai fy meistr, Edward Price, yr hwn oedd, yntau, yn bregethwr rhagorol gyda y Methodistiaid, wrth ei frawd Morris Roberts, mai merlyn hyll iawn oedd ganddo. "Merlen ydyw hi," meddai Roberts. "Pa un bynnag," ebai Price, "un hynod o hyll ydyw hi." "Beth sydd arni hi?" gofynnai ei pherchennog. "Troi ei thraed allan yn wrthun iawn y mae hi," atebai y llall. "O, lady yw fy merlen i, troi eu traed allan wrth gerdded y mae y ladies i gyd yrwan," meddai Roberts, er mawr ddifyrrwch i fy meistr a minnau.

Yr oedd dosbarth lluosog o'r Methodistiaid oddeutu y pryd hwnnw yn condemnio Morris Roberts fel cyfeiliornwr. Barnent fod ei olygiadau ar athrawiaeth yr Iawn, ac athrawiaeth prynedigaeth, yn gwyro oddiwrth y gwirionedd. Yr oedd gallu ac anallu dyn yn bwnc o ddadl rhyngddynt hefyd, mi debygwn. Yr oeddwn i ar y pryd yn rhy ieuanc ac anwybodus i roddi barn deg ar y pynciau pwysig hynny; ond yr wyf yn cofio fod fy nhad, yr amser hwnnw, yn credu fod Morris Roberts yn nes i'r Beibl o ran ei syniadau