Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hynny collais yr unig gyfle a ddaeth yn fy ffordd i glywed y gwr hynod hwnnw.

Yr oedd crefydd wedi darostwng yr ardal y magwyd fi ynddi yn rhyfedd o dan ei dylanwad. Perchid dydd yr Arglwydd yn bur gyffredin. Ychydig iawn o feddwi oedd yn y fro. Yr oedd llwon a rhegfeydd wedi eu hymlid ymaith o'n terfynau ni. Ni wyddem ni fel plant beth oedd tyngu a rhegi. Ni fyddai neb, am a wni, yn glanhau esgidiau, na thorri gwair i anifeiliaid, ar y Sabbath. Yr oedd torri barf, a golchi cloron, a'r cyffelyb, allan o'r cwestiwn yn ein plith ar y dydd hwnnw. Sylwais eisoes, na chlywsem ni neb yn tyngu ac yn rhegi pan oeddym yn fychain ar aelwyd ein rhieni. Clywsem fod rhai yn gwneuthur hynny; ond ni wyddem ni yn y byd pa beth ydoedd. Un noswaith yn y gauaf, yr oedd hen aelod yn y capel yn aros am rai oriau gyda ni a'n rhieni wrth y tân, ac mewn profedigaeth fechan, dywedodd air hollol ddieithr i ni, ac yr oeddym yn ofni ei fod wedi tyngu. Drannoeth, daeth gwr ieuanc oedd, yntau, yn aelod yn yr Hen Gapel heibio i ni, a gofynasom iddo, "Beth ydyw tyngu," gan ychwanegu fod arnom eisieu cael gwybod y peth yn gywir. Atebodd yntau yn bur gali, "Nid wyf yn ewyllysio dweyd i chwi, rhag i chwi ddysgu tyngu." "Wnawn ni ddim dysgu, yn sicr," meddem ninnau. "Wel," ebai ein cymydog ieuanc, "dweyd rhyw eiriau hyllion, y byddwch chwi yn cael drwg gan eich mam am eu dywedyd, ydyw tyngu." "A ydyw —— yn dyngu?" meddem ninnau. "Ydyw," ebai yntau, "peidiwch a dweyd y gair hwnnw." "Wel, y mae Harri o'r Graig wedi dywedyd y gair yn ein ty ni neithiwr, ac y mae o yn perthyn i'r capel. Rhaid ei dorri fo allan yn union deg," meddem ni. Dechreuodd ein cymydog William