Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/15

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

amddiffyn tipyn erbyn hynny ar ei frawd Harri. Dywedai nad oedd hwnnw yn air drwg iawn, a bod geiriau gwaeth nag ef o lawer, ac mewn byrbwylldra y dywedodd yr hynafgwr y gair; ond nid oedd yr amddiffyniad yn ein boddhau ni, ac ni a ddiarddelasom Harri ar ben y garreg fawr oedd yn y clawdd terfyn rhwng ein caeau ni a chaeau Ty'n y Bryn. Mae Harri, wedi y cyfan, yr wyf yn credu, yn y nefoedd er's llawer dydd. Yr oeddwn i o bump i chwech oed, feddyliwn, pan ddygwyd Harri dan ddisgyblaeth pen y garreg gan blant y Ty Coch.

Yr oedd amryw o ddynion neillduol yn byw gerllaw ini. Un o honynt oedd Edward o Dan y Castell. Bugail defaid ydoedd ar hyd ei oes. Perthynai i'r eglwys oedd yn yr Hen Gapel. Meddai lais mwy cryf a soniarus na neb a ddigwyddodd i mi glywed erioed. Pe cawsai addysg dda mewn peroriaeth, prin y buasai Sims Reeves yn gymhwys i ymgystadlu âg ef. Yr oedd yn ei gyflawn nerth pan oeddwn i yn blentyn, a'i lais, fel udgorn y jiwbili, yn boddi lleisiau pawb mewn cynulleidfa. Yr oedd yn byw gerllaw i ni hynafgwr iach o fugail defaid, yr hwn a. gyrhaeddodd yr oedran teg o 102. Byddai gwr arall o'r gymydogaeth, o'r enw Cadwaladr Williams, Wern Ddu, yn myned heibio i'n ty ni yn aml, yn yr haf, i'r mynydd i fugeilio, a bu yn aml yn cyfeillachu â ni fel plant. Gofynnodd i mi, un diwrnod, i ba le yr oeddwn yn meddwl myned wedi marw. Atebais innau mai i'r nefoedd os cawn i fyned yno. "Chei di ddim," ebai yntau. "Paham?" meddwn innau. Ei ateb oedd, "Am fod gennyt ti lygaid gleision, ac nid oes neb â llygaid felly i gael mynd i'r nefoedd; gofyn di heno i dy dad, a dywed i mi beth a fydd efe yn ei ddywedyd pan ddelwyf heibio eto yfory." Wedi