Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oblegid os oeddwn i yn bwriadu aros yn y dref honno, ac yn byw yn addas i'r efengyl, y gallent hwy roddi llythyr cymeradwyol i mi i fyned at y Saeson, pan ddysgwn ddigon o Saesonaeg i allu cydaddoli â hwy; ac felly derbyniwyd fi. Cefais lawer iawn o ymgeledd ac adeiladaeth yn y gynulleidfa Gymreig. Diflannodd fy rhagfarn yn erbyn y Methodistiaid, a chymerais innau ofal am beidio eu blino hwy yn yr Ysgol Sul, a'r cyfeillachau neillduol, a'm golygiadau neillduol fy hun am Natur Eglwys, Iawn Crist, Prynedigaeth, gwaith yr Ysbryd Glan yn nychweliad pechaduriaid, a phynciau cyffelyb. Bum yn y gyfeillach o ddechren Medi, 1830, hyd ddechreu Mawrth, 1831, cyn cael fy nerbyn yn gyflawn aelod. Daeth William Vaughan, yn ddiweddar o'r Waun, i'r society yr un noswaith a mi, ac os nad wyf yn camgofio, derbyniwyd ni yn aelodau yr un pryd. Parhaodd ein parch tuag at ein gilydd tra y bu efe byw. Cyfansoddais innau englynion coffadwriaethol am dano, ac yr wyf yn meddwl eu bod wedi eu cyhoeddi.

Tra y bum yn gweithio gydag Edward Price, ymroddais i ddysgu Saesonaeg. Arferwn godi yn foreu iawn yn yr haf, ac ysgrifennwn restr o eiriau Saesonaeg, a'u harwyddocâd yn Gymraeg wrthynt, a hoeliwn hwy ar y fantell uwchben y tân lle yr oeddwn yn gweithio, a dysgwn hwy allan ar hyd y dydd; yna, darllennwn lyfr Seisonig ar ol noswylio, ac yn achlysurol, cyfarfyddwn â rhai o'r geiriau a fuasent dan hoelion gennyf, a thaflent gryn oleuni ar y brawddegau y digwyddent fod ynddynt. Yr oedd yn anfantais i mi i ddysgu Saesonaeg ein bod yn wastad yn siarad Cymraeg gyda ein gilydd ar yr aelwyd gartref, ond cymerais i Ramadeg Seisonig, ac astudiais ef. Yr oeddwn yn deall y Gramadeg