Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/33

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cymraeg yn weddol dda o'r blaen, ac felly, drwy ddiwydrwydd ac ymadrech, daethum yn raddol yn alluog i weddio ac i annerch Ysgol Sabbathol Seisonig a gynaliai y Methodistiaid y pryd hwnnw yn Mhorth y Waun, i'r hon y gadewid i mi fyned, er mwyn i mi ymarfer tipyn â'r iaith Seisonig, gyda gwr ieuanc arall o'r enw John Davies, yr hwn oedd yn Sais da iawn, a dysgodd hwnnw lawer arnaf fi. Wedi i mi adael Conwy, ac ros rhyw ychydig yn Llanuwchllyn, dychwelais at Mr. Edward Price i Groesoswallt, a bu fy mrawd Evan a minnau yn gweithio yno am ran o'r flwyddyn 1832. Bum i yn gweithio am dro hefyd gyda Mr. William Evans, Lawnt, yn nghymydogaeth Croesoswallt, yr hwn oedd yn cadw gefail a thafarn. Lle direol dros ben oedd hwnnw.

Y nos gyntaf yr aethum yno, noson o ganu a dawnsio yn y ty gan ynfydion a ddaethent yno o redegfeydd meirch ar Gyrn y Bwch, cefais i freuddwyd rhyfedd iawn, ac a wnaeth effaith ddofn ar fy meddwl, a phenderfynais yn y fan na chyffyrddwn â dafn o ddiod feddwol tra y byddwn yn y lle, ac ni wneuthum ychwaith, a chefais ddiolch gan wraig y ty wrth ymadael am hynny, er ei bod yn dafarnwraig, oblegid, meddai hi, fod y gweithwyr a arferent yfed yno yn colli eu hamser, ac yn esgeuluso eu gwaith, fel yr oedd eu colled hwy oddiwrth eu hesgeulusdod yn llawer mwy na'u hennill oddiwrth y cwrw a yfent. Wedi gadael y Lawnt, bum am fis gyda gwraig weddw bur gas yn gweithio; ond ni allwn ei dioddef yn hwy na mis. Ymadewais, ac aethum yn bartner â Mr. Thomas Letsom, Morda, ger Croesoswallt, mewn foundry fechan. Gweithiais. yn galed iawn ddydd a nos, ac er fod fy mhartner, Thomas Letsom, yn meddwi llawer, talasom ein