Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/34

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ffordd i bawb, ac enillasom swi go wych o arian heblaw hynny.

Ar ddydd Nadolig, 1833, cynaliwyd cyfeillach yn y capel Methodistaidd yn Nghroesoswalli, a darllenwyd llythyr gollyngdod i mi o flaen y frawdoliaeth i fyned at y Saeson, gan fy mod bellach wedi dysgu Saesonaeg yn weddol dda. Ymddygodd y Methodistiaid ataf yn hynod o dirion a charedig yn fy ymadawiad, ac y mae gennyf barch dwfn iddynt byth ar ol fy arosiad yn eu plith. Cymerais y llythyr, ac ymunais yn hollol ddirwystr a'r gynulleidfa Saisonig oedd dan ofal Mr. Jenkyn. Bu yn fanteisiol iawn i mi gael bod yn aelod gyda y Saeson. 1. Yr oedd Mr. Jenkyn yn bregethwr rhagorol. Llefarai yn Saesonaeg yn eglurach na neb a glywswn i erioed o'r blaen. 2. Cefais ymarfer ag areithio yn yr iaith Seisonig fy hunan mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn amgylchoedd Croesoswallt, mewn cysylltiad a'r Ysgol Sabbathol, a daeth hynny yn raddol yn esmwyth i mi. 3. Cefais lawer o gyfeillion newyddion, y rhai a fuont yn ffyddlon i mi bob amser wedi hynny. Mynnai y cyfreithiwr Mr. Minshull i mi roddi fy ngwaith heibio a myned i bregethu yr efengyl; a phan oeddwn, rai blynyddoedd wedi hynny, yn pregethu i'r Saeson yn yr Hen Gapel, ysgydwodd law yn gynnes â mi, a dywedodd wrthyf mor dda oedd ganddo fy mod wedi cydymffurfio a'i gyngor. Efe oedd y cyntaf erioed a soniodd wrthyf am fyned yn bregethwr. 4. Y pryd hwnnw y daethum yn gydnabyddus ag "Equity and Sovereignty" Dr. Edward Williams. Cefais fenthyg argraffiad 1809 gan Mr. Edward Davies o Lwynymapsi, yr hwn oedd yn dduwinydd rhagorol, ac yn fuan wedi hynny, prynnais y trydydd argraffiad o'r gwaith; ac wedi ei ddarllen yn fanwl, rhyfeddais fod