Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/35

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cynifer o ddynion yn condemnio y traethawd—dynion na fuont erioed yn deilwng i ddatod careiau ei esgidiau ef. Prynnais hefyd waith Jonathan Edwards ar "Ryddid yr Ewyllys," a bu y llyfr hwnnw, mewn cysylltiad a gwaith Dr. Williams, yn foddion effeithiol i sefydlu fy marn ar amryw o bynciau pwysicaf crefydd. Darllennais amryw o lyfrau da eraill ar wahanol bynciau, a daethum yn raddol i ddechreu agor fy llygaid, a deall rhyw ychydig.

Yn niwedd Ionawr, 1835, gadewais Groesoswallt, ac aethum i weithio at fy hen feistr i Gonwy, yr hwn oedd erbyn hyn yn cadw tawdd—dy, tebyg i'r hwn oedd gan Letsom a minnau yn Morda. Bum yno hyd wanwyn y flwyddyn 1840. Lle caled, ond pur ddedwydd i mi, oedd hwnnw. Yr oedd achos newydd wedi cael ei ddechreu gan yr Anibynwyr yng Nghonwy, a chapel newydd yn cael ei adeiladu, yr hwn a agorwyd ar ddydd Iau Dyrchafael, 1835. Parch. Richard Rowlands oedd y gweinidog yng Nghonwy ac yn Henryd y pryd hwnnw. Ymunais i a'r gynulleidfa fechan honno, ac ymdrechais fod yn ddefnyddiol yn eu mysg.

Ar y 12fed o Awst, 1836, priodwyd fi âg Isabella, merch hynaf fy meistr, a buom ein dau fyw yn ddedwydd a diangen, nes y torrwyd hi i lawr gan angeu, yn nechreu y flwyddyn 1847.

Yn haf y flwyddyn 1835, yr oedd y gweinidog, y Parch. R. Rowlands, yn gwaelu o ran ei iechyd; ac er iddo fyned dan ddwylaw amryw o feddygon, nid oedd yn cael dim llesâd. Yn mis Hydref y flwyddyn honno, cynghorwyd fi gan lawer i bregethu yn achlysurol, er cynorthwyo Mr. Rowlands yn ei wendid; ac wedi tipyn o hwyrfrydigrwydd, ufuddheais i'w cais; ac wedi dywedyd ychydig yn y gyfeillach neill—