Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

duol, a chael cymeradwyaeth yr eglwys fechan honno, dechreuais bregethu yn gyhoeddus, yn gyntaf oll yn Henryd, yna yng Nghonwy. Wedi ymaflyd felly yn y gorchwyl mawr o bregethu yr efengyl, ymroddais yn egniol i gyfansoddi pregethau, a theithiais lawer, ar fy nhraed yn wastad, i'w traddodi yn yr holl gapeli oedd o bob ochr i afon Conwy. Fy nheithiau pellaf oeddynt i Dolyddelen, Pentre y Foelas, Moelfro, swydd Ddinbych; Bethesda, Arfon; Bangor, Beaumaris, a Chaergybi. Cychwynnwn nos Sadwrn, wedi noswylio, gan amlaf, a dychwelwn yn foreu iawn ddydd Llun at fy ngorchwylion yng Nghonwy, a phareais i lafurio felly—pregethu a gweithio bob yn ail, am dair blynedd a hanner. Cyn hir, ar ol i mi ddechreu pregethu, aeth Mr. Rowlands yn rhy wael i lafurio mwyach. Clywais ef yn traddodi ei bregeth olaf. Y testun oedd Phil. iii. 18: "Canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awr hon hefyd dan wylo yn dywedyd, mai gelynion croes Crist ydynt." Yr oedd efe a'r gynulleidfa yn ymwybodol mai y tro diweddaf iddo ef esgyn i'r areithfa yn Nghonwy ydoedd, ac oedfa ddifrifol iawn a gawsom. Bu yno wylo yn yr areithfa, ac yn yr eisteddleoedd hefyd. Aeth Mr. Rowlands i Feddyg-dy Dinbych, ac yno y bu farw Rhagfyr 10fed, 1836, ddeunaw mlynedd ar hugain i'r dydd yr wyf fi yn ysgrifenm y geiriau hyn, sef Rhagfyr 10fed, 1874. Dyn da a hawddgar iawn oedd Mr. Rowlands. Wedi ei farwolaeth ef, dechreuodd mân—brofedigaethau pregethwyr fy nghylchynu innau. Yr oedd yn yr eglwys yn Nghonwy rai dynion anhywaith a drygionus, yn mysg dynion da a ffyddlawn iawn, a chefais beth poen oddiwrth y dosbarth gwael hwnnw am dymor; sef, hyd nes y