Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

daeth y Parch. Richard Parry i ymsefydlu yno ac yn Henryd, yn weinidog. Pregethwr rhagorol oedd Mr. Parry (Gwalchmai), a chefais lawer o les dan ei weinidogaeth tra yr arosais yng Nghonwy.

Yr oedd Cymdeithas Cymedroldeb yn ein plith er's tro, ond yr oedd yfed a meddwi yn myned yn mlaen er hynny. Wrth weled mor aneffeithiol oedd Cymdeithas Cymedroldeb i atal y diota a'r meddwi ymffurfiodd luaws o honom yn Gymdeithas Lwyrymataliol oddiwrth ddiodydd meddwol, dan arweiniad y diweddar Hybarch Evan Richardson. Llafuriasom yn egniol o blaid dirwest, a llwyddasom yn ddirfawr. Yr oedd yr holl dafarnwyr yn ein herbyn; ond yr oedd Duw gyda ni. Cawsom wawd a dirmyg, ond cawsom ben y gelyn meddwdod i lawr i raddau helaeth iawn. Diolch i Dduw. Yr wyf y dydd heddyw mor sefydlog fy marn am y diodydd syfrdanol ag oeddwn y pryd hwnnw, a rhoddais yn wastad ar hyd fy oes weinidogaethol y dylanwad bychan oedd gennyf yn erbyn eu hyfed fel diodydd cyffredin, ac o blaid llwyrymwrthodiad â hwynt.

Yr oedd yng nghymydogaeth Conwy a dyffryn Llanrwst amryw o ddynion hynod yr amser hwnnw, megys John Owen, Cyffin, yr hwn oedd ar y pryd yn bregethwr gyda'r Wesleyaid, ac yn ddyn go neillduol; William Bridge, blaenor gyda'r un blaid, a dyn teilwng a dylanwadol; Owen Owens, Tyddyn Cynal, hen bererin rhyfedd iawn; David Jones, Salem, oedd yn ddyn da, diniwaid, llawn o arabedd; William Jones, hen weinidog Dwygyfylchi, Cristion rhagorol, a pherchen synwyr cyffredin cryf iawn, ac eraill a allwn enwi; ond nid oes gennyf amser i wneud sylwadau arnynt. Y maent oll ond Mr. Bridge wedi eu claddu. Heddwch i'w gweddillion yn eu beddrodau.