Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn nechreu y flwyddyn 1840, aethum i supplyo am ddun Sabbath i Dinas Mawddwy, a'r eglwysi cysylltiedig â'r Dinas, a derbyniais alwad unfrydol oddiwrth yr eglwysi ym Mawddwy i ddyfod atynt i lafurio yn eu plith. Wedi ymgynghori â Duw (gobeithiaf), ac â llawer o'i bobl fwyaf defnyddiol, symudais yno ddechreu yr haf, ac ar yr 19eg o Fehefin, urddwyd fi i'm swydd bwysig yn nghapel y Dinas. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn cymeryd rhan yn y cyfarfod a'r neillduad:—Cadwaladr Jones, Dolgellau; Michael Jones, Llanuwchllyn; Edward Davies, Trawsfynydd; Hugh Lloyd, Towyn:Samuel Roberts, Llanbrynmair: Hugh Morgans, Sammah; Evan Evans, 'Bermo; Evan Griffith, Llanegryn: Hugh Hughes, y Foel: John Parry, Machynlleth; Hugh James, Brithdir; Ellis Hughes, Treffynnon. Y Parch. Samuel Roberts a draddododd yr anerchiad ar "Natur Eglwys:" y Parch. Cadwaladr Jones a ofynodd y gofyniadau, ac a alwodd am arwydd o'u dewisiad o honof fi oddiwrth yr eglwysi, ac o'm derbyniad o'r alwad oddiwrthyf finnau; y Parch. Michael Jones a bregethodd i mi, oddiwrth Actau xx. 20; Evan Evans, 'Bermo, a bregethodd i'r eglwysi a'r gwrandawyr, oddiwrth 1 Thes. v. 12, 13. Dylaswn ddywedyd yn gynt, mai yr Hybarch Edward Davies, Trawsfynydd, a weddiodd yr urddweddi, fel ei gelwir hi. Yr oedd efe yn gâr pellenig i mi, a chyflawnodd ei ran yn y neillduad y'n deimladol a phriodol dros ben. Yr un modd y gwnaeth yr Hybarch Michael Jones ei ran yntau.

Ymdrechais lafurio yn galed a diarbed yn y Dinas a'r holl amgylchoedd. Yr oedd yn adeg adfywiad grymus ar grefydd, a bu llwyddiant dymunol ar fy lafur. Derbyniais lawer iawn o aelodau newyddion.