Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dychwelodd llawer o wrthgilwyr yn ol, a chynydd. odd y cynulleidfaoedd. Yr oedd dirwest yn blodeuo, a haelfrydedd Cristionogol ar gynnydd yn ein mysg. Gelwid am fy ngwasanaeth yn yr eglwysi cymydogaethol, a bum yn ddedwydd yn fy holl gysylltiadau. Ni arosais ond ychydig dros ddwy flynedd yn y Dinas. Yn gynnar yn 1842, derbyniais alwad unfrydol oddiwrth yr eglwys newydd oedd yn nghapel Salem, Liverpool. Yr oedd amrywiol bethau yn ymddangos i mi ar y pryd yn ffafriol i'm symudiad yno, a gwnaethum hynny yn nechreu Medi 1842. Bum lawer gwaith yn amheu wedi hynny a wnaethum yn ddoeth ac yn dda i adael pobl oedd yn fy ngharu mor fawr, ac yn mawrygu fy enw mor drylwyr, a'r eglwysi oedd dan fy ngofal ym Meirion. Prin yr wyf wedi cael boddlonrwydd ddarfod i mi wneuthur yn iawn yn fy ymadawiad â hwynt. Pa fodd bynnag, yr oedd llawer o brif ddynion ein henwad yn fy annog i fyned i Liverpool, ac, ar y cyfan, bu fy ngweinidogaeth yn gymeradwy ac yn llwyddiannus yno. Y diweddar Barch. T. Pierce oedd yr unig weinidog oedd gyda yr Anibynwyr pan y sefydlais i yno. Yn mhen naw mis ar ol i mi gymeryd gofal yr eglwys yn Salem, symudodd y Parch. W. Rees o Ddinbych i Liverpool, i gymeryd arolygiaeth yr eglwys yn y Tabernacl. Bu Mr. Pierce, a Mr. Rees (yn awr Dr. Rees), a minnau yn cydlafurio yn unol a dedwydd iawn dros y tymor yr arosais i yn Liverpool, a chefais lawer iawn o addysg yn eu cwmniaeth. Brodyr anwyl iawn oeddynt, ac yr oedd yr eglwysi mewn undeb hyfryd a'n gilydd dan ein gweinidogaeth, a phob un o'r cynulleidfaoedd yn cael mwynhau ein gweinidogaeth ni ein trioedd yn rheolaidd, oblegid arferem newid pulpudau bob Sabbath. Y pryd