𝕽𝖍𝖆𝖌𝖞𝖒𝖆𝖉𝖗𝖔𝖉𝖉.
——————
ANWYD Ap Vychan yn y Ty Coch,
Llanuwchllyn, Awst 11, 1809, yn
drydydd plentyn i lafurwr tlawd, ond
gwir ddiwylliedig; bu farw Ebrill 23,
1880, yn Athraw Duwinyddiaeth yng
ngholeg yr Anibynwyr yn y Bala, ac yn
un o dywysogion pulpud Cymru.
Gadawodd ardal ei febyd yn weddol fore, ond yr oedd ei hiraeth yn gryf ani dani ar hyd ei fywyd, ac wrth dalcen ei heglwys blwyfol y claddwyd ef. Nid rhyfedd fod natur mor serchog a barddonol yn hoffi ymdroi mewn adgof am fro mor brydferth. Ar oriau hirion tawel haf, yn nyddiau teyrnasiad brenhines y weirglodd, a phan fo cloch y bugail yn galw addolwyr y mawreddog i gymoedd y mynyddoedd mawr, nid oes odid dlysach bro na Phenanlliw yng Nghymru i gyd. Yma y bu Ap Vychan yn hogyn cadw defaid, ac yma yr hoffai ddod, ar hyd ei fywyd, i weled hen gartref, hen ffynnon, a hen lwybrau ei febyd.
Gadawodd Ap Vychan lawer o waith gorchestol ar ei ol. Y mae ei bregethau, i'r rhai y rhoddodd nerth ei fywyd, ar gael mi a obeithiaf. Y mae ei ddarlithiau wedi eu eyhoeddi yn y Cofiant campus