Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

olygwyd gan ei fab D. Vychan Thomas, a'i gyd- athraw, Michael D. Jones. Cyhoeddwyd ei awdl ar "Y Diluw," enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn 1863, yng nghyfrol cyfansoddiadau yr Eisteddfod honno. Cyhoeddwyd ei awdl ar "Y Môr,' enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Caerlleon yn 1866, yn y Genhinen Eisteddfodol, Awst 1893. Cy- hoeddwyd 'Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau," gyda darluniadau swynol Ap Vychan o fro ei febyd ef a'r Hen Olygydd araf-bwyll hwnnw, yn 1870. Y mae eto lawer yn aros heb ei gyhoeddi, megis yr awdl ddigadair ar "Paul," a'r hanes y ddadl dduwinyddol rhwng yr uchel a'r cymedrol Galfin, dadl anrheithiodd yr "Hen Gapel,” fel yr anrheithiasai lawer gwlad cyn hynny. Ond nid fy mwriad yw rhoddi i'r darllenydd ddim o'r pethau gorchestol hyn.

Yn y gyfrol hon ni cheir yn unig ond llais hiraeth Ap Vychan am fro febyd, am ddyddiau bore oes, ac am ambell hen gyfaill. Gadewir iddo adrodd ei hanes ei hun; a bydd yr hanes hwn, mi gredaf, yn ffynhonnell ynni newydd i bawb a'i darlleno. Plentyn natur oedd Ap Vychan, a llais plentyn natur sydd yn yr adgofion hyn, mewn rhyddiaith a chân.

Cadwodd Ap Vychan, hyd ei fedd, sel danbaid ac ysol yr ardal grefyddol y, dygwyd ef i fyny ynddi. yn Anibynnwr o'r Anibynwyr. Y tro cyntaf i mi ei gofio yw ei weled yng Nghyfarfod Mawr Llenyddol Methodistiaid y Bala, yn cyhoeddi darlith yn ei gapel ei hun ar Oliver Cromweil. "Dowch yno, mhobol i," meddai, a swn brwydr yn ei lais, "i glywed beth all Anibynnwr wneyd, a'i gleddyf yn ei law."Esbonia hyn ambell gernod roddir yn yr adgofion hyn i'w frodyr y Bedyddwyr a'r Methodistiaid.