Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iawn. Mae rhannan uchaf y rhandir yn nodedig o fynyddog. Mae y creigiau daneddog, ysgythrog, yn lluosog iawn: ar y rhai y mae mellt, gwlawogydd, eiraoedd, rhewogydd, a gwres, wedi bod yn diwyd weithio, nes datod rhannau dirif o honynt, nes y mae y rhannau hynny megys plant o amgylch traed eu rhiaint, ac yn gwireddu y ddiareb,"Odid fab cystal a'i dad." Ymysg y cerrig hynotaf yn yr ardal y mae carreg y lluniau," ar yr hon y ceir lluniau o amryw ffurfiau, a rhai o honynt yn dwyn llawer o debygrwydd i waith llaw dyn, neu sangiad troed anifail, cyn i'r garreg galedu fel y mae yn bresennol. Bu llawer o bobl feddylgar yn myfyrio uwchben "carreg y lluniau." ac yn methu deall y dirgelwch sydd yn perthyn iddi. Ymysg eraill, bu y daearegydd cyfarwydd, y diweddar Ioan Pedr, yn ei hastudio, a sicrhai efe i ni mai gwaith natur yw y cyfan, ac na fu gan law dyn, na throed anifail, ran yn y byd yn ffurfiad y lluniau; ac yr oedd efe yn awdurdod led uchel ar y fath bynciau, fel yr addefir yn gyffredinol.

Mae yma hefyd domenau pridd a cherrig, wedi eu furfio yn agos yn grynion, i'w cael mewn amryw fannau. Gwaith dwylaw dynion yw y rhai hyn, yn ddiau. Creda rhai mai claddfeydd i'r meirw oeddynt, ond tybia eraill mai yn orsafoedd arwyddion y bwriadwyd hwynt, er trosglwyddo newyddion o'r naill ardal i'r llall. Tyb-osodiadau, heb nemawr o sierwydd yn perthyn iddynt yw llawer o bethau a ddywedir am danynt. Mae un o honynt yng Nglyn Dyfrdwy, ar yr unig lcyn, o ben Bwlch yr Ysgog i Gorwen, lle y canfyddir Castell Dinas Bran. Mae yn lled debyg mai derbyn arwydd o'r castell y byddai gwyliedydd y domen honno, a'i drosglwyddo ymlaen