Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gan wneud defnydd o domen arall sydd gerllaw, ac y mae honno yng ngolwg tomen sy' gerllaw palas Rug. Parodd hyn, a phethau cyfatebol iddynt, i amryw feddwl yn gryf mai un o brif amcanion y tomenau oedd gwasanaethu fel lleoedd i osod arwyddion arnynt, banerau neu dân, i rybuddio gwahanol ardaloedd pan fyddai perygl oddiwrth elynion yn dynesu atynt. Ymddengys en bod i'w cael yn India, ac yn wir, yn y rhan amlaf o wledydd y byd. Nid yw chwaith yn amhosibl nad oedd amcanion coelgrefyddol hefyd, yn perthyn iddynt, a'u bod yn dal cysylltiad â Derwyddiaeth y dyddiau gynt. Mae amryw bethau yn peri i ddyn meddylgar dybio hynny.

Mae amryw leoedd ym Mhenllyn yn dwyn yr enw o gaer, a chastell, megys y Caerau, Caer Gai, Castell Carn Dochan, &c. Yr oedd Caer Gai yn wersyllfa i adran o filwyr Rhufain, yn yr hen amseroedd, fel y mae gweddillion eu gwaith yn y lle yn profi yn eglur: ac yr oedd ffordd Rufeinig yn arwain o Gaer Gai i Gwm Prysor, a Thomen y Mur, gweddillion yr hon a ganfyddir mewn amryw fannau yn y cyfeiriad hwnnw hyd y dydd heddyw. Mor anturiaethus raid fod gwyr Rhufain yn eu dydd, pan y sefydlent eu gwersylloedd yng nghanol mynyddoedd Cymru, ac y gweithient en ffyrdd drwy y cymoedd, a thros fynyddoedd Gwylit Walia, o'r naill wersyllfa i'r llall. Ond clywsom y diweddar Dr. O. O. Roberts, o Fangor yn dywedyd eu bod wedi cymeryd mantais ar ffyrdd yr hen Gymry yng ngwneuthuriad eu ffyrdd eu hunain yn mhob man y gallent, ac mai nid hwy a biau yr holl glod yn y mater dyddorol hwn. "Yr oedd gan yr hen Gynry gerbydau," meddai Dr. Roberts, "a chan hynny, rhaid fod ganddynt ffyrdd i'w dwyn o ardal i ardal. Mae cerbydau heb ffyrdd, nid yn unig yn anhebygol, ond yn amhosibl."