Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cafodd yr ysgrifennydd ei eni a'i fagu wrth droed Castell Carn Dochan. Adeiladwyd y castell ar ben craig serth, uchel, ac mewn lle anlygyrch a thymhestlog dros ben. Nid oes yn awr olion ffyrdd yn arwain ato o unrhyw gyfeiriad: ond diau fod rhai yn yr hen oesoedd. Mae yn adeilad cadarn: y muriau o drwch dirfawr, ac wedi eu gweithio drwy yr hyn a elwir "morter poeth." Mae cregyn o'r môr, yn gystal a graian, yn gymysg a'r cymrwd, ac yr oedd yn amhosibl cael cregyn y môr yn nes na'r Traeth Bach, neu afon yr Abermaw, ac yr oedd yn rhaid eu cario yn bynnau, mae yn debyg, ar gefnau anifeiliaid. Mae y castell braidd yn hirgul, yn betryalawg yn y pen dwyreiniol, ac yn fwaog yn y pen gorllewinol. Mae ffos ddofn, sych, wedi ei thorri yn y graig, a ffos arall, lawn o ddwfr, ychydig o lathenni ym mhellach i'r gorllewin na'r ffos a dorrwyd yn y graig, er amddiffyn y pen hwnnw i'r castell a dyna yr unig ben iddo y gallai gelynion nesâu ato i geisio gwneud niwaid iddo. Mae y murian cedyrn wedi eu chwalu er ys oesoedd, a'r cerrig yn hanner lenwi gweddillion yr adeilad, ae wedi treiglo i'r ochrau, ar bob llaw. Trueni na chymerai pobl yr ardal y gorchwyl o lwyr lanhan yr hen adeilad, fel y gellid gweled y llawr drosto oll. Yr oedd yn y pen dwyreiniol, gynt, adeiladau eraill, heb fod o'r un wneuthuriad cadarn a'r castell ei hunan—adeiladau oeddynt, mae yn ddiau, i gynnwys pethau angenrheidiol at wasanaeth teulu y castell. Y mae llannerch deg o gryn faintioli ar yr ochr ddeheuol i'r amddiffynfa. Dyna lle yr oedd yr ardd a berthynai i'r lle, feallai: neu gwnai fan cyfleus i ddysgu y milwyr a amddiffynent y lle i drin en harfau, ac i ymsymud yn rhengoedd rheolaidd. Tebygol yw mai