Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddylan am nodded, ond cwympodd ei noddwr, llosgwyd ei lys yn Pengwern, neu yr Amwythig, a goresgynwyd yr holl wlad o amgylch gan y Saeson; ffodd y bardd i Abercuawg, ond symudodd oddiyno i Benllyn, lle y bu farw, yn 150 oed, meddir, a chladdwyd ef, mae yn dra thebygol, yn Llanfor. Mae darnau o'i waith yn y Myvyrian Archaiology, ac y maent yn brofion diymwad o'i athrylith.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Gwerful Fychan
ar Wicipedia

GWERFIL VYCHAN. Un o deulu Caer Gai oedd y farddones awenyddol hon. Blodeuodd, debygid, oddentu diwedd y bymthegfed ganrif. Mae ei chywydd i'r March Glas, neu yn hytrach y darnau ohono sydd ar gael, yn profi ei bod yn feddiannol ar athrylith gref, a medrusrwydd mawr, ac y mae rhai ergydion rhagorol yn ei chywydd ar Ddioddefaint Crist. Dywedir ei bod, yn amser llyfnu, yn tosturio wrth ryw hen geffyl blinedig oedd wedi llwyr ddiffygio yn ei waith, ac yn dywedyd wrth ei thad,—

Hen geffyl, gogul, digigog,—sypyn,
Swper brain a phiog;
Ceisio'r wyf, mae'n casâu'r ôg,
Wair i'r Iddew gorweiddiog.

Mae amryw o'i dywediadau, ar ffurf cynghanedd, wedi nofio i lawr ar lif llafar gwlad, hyd ein dyddiau ni.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Rowland Vaughan
ar Wicipedia

ROWLAND VYCHAN o Gaer Gai, oedd yn ei flodau oddeutu canol yr unfed ganrif ar bymtheg. Yr oedd yn dirfeddiannwr helaeth a pharchus; ac felly yr oedd ei hynafiaid, er ys canrifoedd cyn ei ddyddian ef. Cyfieithodd yr "Ymarfer o Dduwioldeb," a chryn nifer o lyfrau buddiol eraill. Yr oedd Rowland Vychan yn freninoliad aiddgar, a dioddefodd lawer o herwydd hynny. Llosgwyd ei dy hyd y llawr gan