Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fyddin y Senedd, adran o ba un fu yn aros am ychydig, y pryd hwnnw, yn y Bala, a throsglwyddwyd ei etifeddiaeth, neu o leiaf, ran fawr y honi, i gâr iddo, fel y dengys yr englyn canlynol a gyfansoddodd yr adeg honno:—

Caer Gai nid difai fu gwaith tân—arnad;
Oernych wyd yrwan,
Caer aethost i'm câr weithian,
Caer Gai, lle bu cywir gan.

Bu raid i Rowland Vychan droi o'r ardal yn ffoadur am dro, rhag dialedd gwyr y Senedd. Dengys y pennill canlynol ei fod yn eu casau â chas cyflawn

"Pe cawn i'r pengrynion
Rhwng ceulan ac afon,
Ac yn fy llaw goed-ffon o linon ar li—
Mi a gurwn yn erwin
Yng nghweryl fy mrenin,
Mi a'u gyrrwn yn un byddin i'w boddi."

Drwy lawer o drafferth, wedi adferiad yr aniolchgar Charles II, y cafodd ei etifeddiaeth yn ol. Ail adeiladodd Caer Gai, megys y mae yn bresennol, a chanodd yr englyn canlynol i'r adeilad newydd,—

Llawer caer yn daer i'w dydd,—a losgwyd,
Lesgwaith gwyr digrefydd;
Y Gaer hon i gywir rhydd.
Caer gain yw—Caer Gai newydd."

Dywedir ei fod yn ymladd o biaid y brenin ym mrwydr Naseby; ond diangodd yn ddiogel adref o'r trychineb a oddiweddodd blaid y brenin yn yr ornest