Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

honno. Mae adeg ei farwolaeth a'i gladdedigaeth yn anhysbys; er hynny, dir yw i seren ddisglaer fachludo pan y bu efe farw. Gwelsom waith barddonesau o deulu Caer Gai yn y Blodeugerdd rai blwyddi yn ol; ond nid ydym yn cofio eu henwau, nac yn gwybod eu cysylltiadau ar hyn o bryd; ond hannu o'r un teulu a Rowland Fychan yr oeddynt. Un o'r teulu hwnnw hefyd a adeiladodd yr elusendai sydd ym Mhennantlliw, ac a'u gwaddolodd, hyd y dydd hwn. Aeth yr etifeddiaeth i feddiant Wynniaid Wynnstay, trwy briodas, os na chamhysbyswyd ni am hynny.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Siôn Dafydd Las
ar Wicipedia

SION DAFYDD LAS, yr hwn a flodeuodd rhwng 1650 a 1690, oedd frodor o Lanuwchllyn. Yr oedd yn gerddor tafod a thant i deulu Nannau, ac yn gyfansoddwr tra rhagorol. Pan glywodd am farwolaeth ei gyfaill, Edward Morris o'r Perthi Llwydion, yr hwn oedd borthmon wrth ei alwedigaeth, a bu farw yn Essecs, dywedodd Sion Dafydd Las,—

"I'r bedd, lle oeraidd yn llan,—cul feddiant!
Aeth celfyddyd weithian;
A'r hen iaith, ni a'i rho'wn weithian,
A'r awen fyth i'r un fan."

Gwendid mawr a pharhaus Siôn Dafydd Las oedd yfed i ormodedd. Bu ei gyfeillion yn ymliw gydag ef ar y mater yn fynych, ond y cwbl yn ofer. Ryw dro, pan dan eu cerydd a'n cynghorion, teimlai awydd cryf i ddiwygio, a dywedai,—

"At fy Nhad, fwriad edifeirwch, —ai
I ofyn ei heddwch,
Dan grynu, llechu'n y llwch,
A darostwng i dristwch.