Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rhieni pa le yr oedd y bechgyn. Bu y ddau fachgenyn yno yn ddedwydd dros ben nes y daeth y mis i fyny. Byddai yn burion dywedyd ychydig yma am wraig y ty a dull y teulu hwnnw o fyw. Yr oedd y wraig yn ddynes brydweddol a theg iawn yr olwg arni. Yr oedd yn proffesu crefydd gyda y Methodistiaid Calfinaidd. Buasai yn America gyda ei gwr cyntaf; ond dychwelodd adref i'w hen drigfan, Amnoedd Wen. Daeth dros y môr ei hunan; ond dychwelodd ei gwr, Mr. Griffiths, yn fuan ar ei hol, a bu farw cyn hir wedi dyfod i'w hen wlad. Yr oedd llawer o bobl yn yr Amnoedd Wen tra y parhai y cynhanaf gwair; ond nid oedd yno yr un dyn yn proffesu crefydd y pryd hwnnw. Yr oedd Ysgol Sabbathol yn y ty, ac felly nid oedd prinder Beiblau a Thestamentau at wasanaeth pob un a allai ddarllen. Byddai yno ddyledswydd deuluaidd bob bore, a phob hwyr, pa mor brysur bynnag y byddid gyda'r cynhauaf. Byddai pob un a allai ddarllen, yn darllen ar gylch bob yn ail adnod, a dysgwylid i bawb gofio, ac adrodd rhyw air a ddarllenasid. Mrs. Griffiths ei hun fyddai yn gweddio, a gwnai hynny yn berffaith weddus ac urddasol.

Ar ddyddiau teg iawn, parotoid siot llaeth enwyn i'r dynion, am ei fod yn fwyd oer a dymunol ar y tywydd tesog. Mewn dysgl ddofn y gwneid yr arlwy honno. Yna cymerai pob un ei lwy, ac estynai hi i'r ddysgl, a chodai ei llonaid i'w safn; ond yr oedd y ddau fachgen yn fyrion, a'r ddysgl yn ddofn, ac wyth neu ddeg o lwyau i mewn ynddi ar unwaith, a mynych y byddai llwythi eu llwyau hwy wedi eu dadymchwelyd cyn gallu o honynt eu cael yn agos i'w safnau. Gwelai Mrs. Griffiths eu hanfantais, a pharai iddynt aros ar ol, a chaent fwyd wrthynt eu