Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hunain, wedi i'r lleill fyned at y gwair i'r maes. Yr oedd gwir diriondeb yn y wraig honno. Gwnaeth y fath argraff ddofn ar feddwl yr ieuangaf o'r bechgyn, fel yr aeth, un mlynedd ar hugain wedi hynny, gryn dipyn o'i ffordd, yn unig er mwyn cael ei gweled, a siglo llaw à hi. Cafodd hynny; ond yn anffodus, nis gallodd beri iddi ei gofio. Y mae wedi marw bellach. er ys blynyddoedd lawer. Heddwch i'w llwch, i aros adgyfodiad y cyfiawnion. Sylwn:—

1. Tra yn aros dan gronglwyd y wraig ragorol honno, dyfnhawyd yr argraff o werth gwir grefydd yn fawr ar feddwl y bachgen ieuengaf o'r ddau, ac nid yw yr argraffiadau a wnaed y pryd hwnnw wedi eu gwisgo allan hyd heddyw.

2. Fod crefydd deuluaidd yn help neillduol i gael llywodraeth dda, gariadlawn, a chref mewn teulu. Nid oedd geiriau cas a bryntion i'w clywed rhwng y gweithwyr a'u gilydd, ar adeg yn y byd, pan oedd y bechgyn yn Amnoedd Wen. Yr oedd y dynion digrefydd oeddynt yn gweithio y cynhauaf yno, yn ymddwyn yn barchus hollol at eu gilydd, ar y meusydd ac yn y ty. Ni roddent sarhad i neb. Nid yw rhifedi mawr o ysgrifenwyr ffugenwol ein papyrau Cymreig, yn y dyddiau hyn, yn gymhwys i ddatod careiau esgidian gweithwyr dibroffes Amnoedd Wen. Yn sicr, nis gall fod proffeswyr crefydd sydd yn ymhyfrydn mewn pardduo ac enllibio dynion diniwaid a difeddwl-ddrwg, yn credu yn "adgyfodiad y meirw, a'r farn dragwyddol."

3. Mor ddedwydd a hardd fyddai y byd hwn pe dygid ef dan lywodraeth crefydd bur a dihalogedig gerbron Duw a'r Tad. Crefydd bersonol yn meithrin crefydd deuluaidd—crefydd deuluaidd yn meithrin crefydd gynulleidfaol—teuluoedd yn tywallt