Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

poblogaeth pob aelwyd i dŷ Dduw ar y Sabbathau— pechod wedi gwywo a dihoeni, a sancteiddrwydd i'r Arglwydd yn argraffedig ar bob peth,—beth pe ceid y byd hwn am un ganrif dan lywodraeth cariad, cyfiawnder, a phurdeb? Byddai cael peth felly yma yn nefoedd ar y ddaear, yn lle y genfigen, y falais, a'r ddrwg ewyllys sydd yn ei anurddo, ac yn ei andwyo yn bresennol.

Mae y ddau fachgen fu gynt yn taenu ystodiau yn Amnoedd, ac yn dringo, fel mwnciod, ar hyd llorpiau y ceir cefnau, er mwyn marchogaeth y ceffylau, wrth gario y cnwd i'r weirlan, eto ill dau yn fyw ac yn iach. Trwy gael llawer o help gan Dduw, y maent yn aros hyd y dydd hwn; ond ni bu yr un o'r ddau, debygwyf, byth wedi hynny dros riniog y ty lle y treuliassnt bedair wythnos gynt mor ddedwydd. Pobl newyddion sydd yn byw hefyd yn y cwm, ac nid oes dim yn aros lieddyw fel yr oedd y pryd hwnnw ond yr Arennig a Moel Llyfnant.

AR FEDD GWR IEUANC

YM MYNWENT PLWYF LLANUWCHLLYN.

𝕯YN ieuanc i'w dy newydd—a ddygwyd,
Cadd ddigon o dywydd;
Ger y llan cysgwr llonydd
Hyd y farn ofnadwy fydd.