Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

cheid gof drwy holl wlad Israel:—canys dywedasai y Philistiaid, Rhag gwneuthur o'r Hebreaid gleddyfau neu waewffyn. Ond holl Israel a aent i waered at y Philistiaid i flaenllymu bob un ei swch, a'i gwlltwr, a'i fwyell, a'i gaib. Ond yr oedd llif-ddur i wneuthur min ar y ceibiau, ac ar y cylltyrau, ac ar y pigffyrch, ac ar y bwyeill, ac i flaenllymu y symbylau. Felly yn nydd y rhyfel, ni chaed na chleddyf na gwaewffon yn llaw yr un o'r bobl oedd gyda Saul a Jonathan, ond a gaed gyda Saul a Jonathan ei fab." "Y gof â'r efail a weithia yn y glo, ac a'i llunia â morthwylion, ac â nerth ei fraich y gweithia efe hi: newynog yw hefyd, a'i nerth a balla; nid yf ddwfr, ac y mae yn diffygio." Wele, myfi a greais y gof, yr hwn a chwyth y marwor yn tân, ac a ddefnyddia arf i'w waith; myfi hefyd a greais y dinystrydd i ddistrywio." Caethgludodd brenin Babilon fil o seiri a gofaint. o Jerusalem i'r un amcan, yn ddiau, ag y gwnaethai y Philistiaid yn gyffelyb, gannoedd o flynyddau cyn hynny. Nid oes a fynnom ni â gofaint arian Llyfr yr Actau, nac ag Alexander y gof copr, yr hwn, chwedl y diweddar Barch. D. Price, Dinbych, a ddysgodd luoedd o brentisiaid, y rhai a ddysgasant eraill, fel y maent hyd heddyw yn cadw business eu hunain ymhob ardal, ac yn gofalu na roddant ond copr ymhob casgliad.

Dywedir y byddai gofaint, yn yr hen amseroedd, yn darparu y metel eu hunain, yn gystal ag yn ei ddefnyddio i wneuthur pob math o offerynau haiarn a dur at wasanaeth amaethwyr a chielfyddydwyr; ond er ys hir o amser bellach, mae y gwaith wedi ei rannu rhwng gwahanol ddosbarthiadau. Gosodir gweithfa haiarn a dur i fyny gan ryw foneddwr cyfoethog, neu ymuna dynion a'n gilydd yn gwmni i'r amcan