Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hwnnw. Cyflogir cannoedd neu filoedd o weithwyr ganddynt. Tiria un dosbarth i'r ddaear i godi mŵn haiarn; cyfyd dosbarth arall lo i'w doddi; adeiledir ffwrneisiau mawrion, a thoddir y cerrig ynddynt, a gollyngir ef allan yn yr adeg briodol yn ffrwd lifeiriol, i rigolau wedi eu gwneud mewn tywod o flaen y doddfa. Pan oero, torrir ef i fyny i gael ei drin a'i gyfaddasu mewn man ffwrneisiau i fyned dan forthwyl mawr a thrwm—morthwyl a ysigai benglog y mwyaf pendew ym Maelor Seisonig ar un dyrnod. Yna danfonir yr haiarn drwy felinau, a gwneir ef yn bob math o fariau at wasanaeth y gofaint mewn tref a gwlad. Wedi i of ddysgu ei grefft yn weddol fel egwyddorwas, a, ond odid, i'r tramp, fel y dywedir, am dymor, fel y caffo gyfle i weled gwaith yn cael ei wneyd gan ddieithriaid, fel y meistrolo wahanol ddulliau i wneuthur pethau. Daw i gyffyrddiad â llawer o wahanol nodweddiadau, ac arferion dieithr iddo yma a thraw. Gwyddom am un nen ddau a gawsant gryn brofedigaeth, am na chydymffurfient âg arferion y rhai y trigent yn eu plith. Ond dychwelyd a wna y trampiwr bob yn dipyn, ac wedi edrych o'i amgylch, ymdrecha gael mangre i godi gefail, fel y gallo gario gwaith ymlaen ar ei gyfrifoldeb ei hun. Os yw yn ddyn iach, sobr, a diwyd, bydd wedi ennill a chynilo ychydig o arian tuag at gael megin, eingion, gwasgyddes, morthwylion, gordd neu ddwy, llifiau dur, cynion, a llu o bethau nas gellir eu henwi yma. Dechreua ar ei waith—enfyn fwg drwy y mwg-dwll am y tro cyntaf; cafodd orchwyl i'w wneud—y cyntaf oll, ac y mae ganddo addewidion am waith oddiwrth hwn a'r llall. Noswylia, a ar ei liniau i weddio, a rhydd ei ben i lawr i huno mewn gobaith am iechyd, gwaith, bywioliaeth,