Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a modd i dalu ei ffordd i bawb oll. Mae yr efail mewn gwlad, a rhaid iddo yntau wneyd ynddi bob peth sydd ar wlad eisieu—pedoli meirch a mulod, gwisgo olwynion, a gwneyd echelau, ffyrch, pigffyrch, ceibiau, trwsio cloion dorau, cloion gynnan, a gwneyd llawer o begiau moch am ddim—pob peth. Drwy godi yn fore, gweithio yn galed, bod yn ufudd a diolchgar i'w gwsmeriaid, a gofalus am wneyd pob gwaith erbyn yr adeg apwyntiedig, cynydda y gwaith yn raddol, ac enilla yntau hyder ei holl gymydogion. Ond caiff amryw brofedigaethau. Dydd y pethau bychain fydd hi arno am flwyddyn neu ddwy. Caiff ambell un i weithio iddo pur ddrwg am dalu. Caiff ambell geffyl i'w bedoli a ysgytia ei gnawd a'r esgyrn. Caiff aml droediad gan asynod, a rhwygir ei gnawd weithiau gan hoelion wedi eu gyrru, a'r anifail yn gwingo cyn i'r gof gael hamdden i dorri eu blaenau ymaith gyda rhigol ei forthwyl. Caiff allan wirionedd englyn Pedr Fardd yn fynych:—

Un a gnoa'n egnïol—yw asyn
Wrth osod ei bedol;
Try ei d'n, ac a'r traed ol,
Tyr f'esgyrn, ddelff terfysgol."

Ond er cael briwiau, nid a byth, braidd, at feddyg.

Eli Treffynnon
A'i gwella fo'n union."

Bydd arno eisieu help, yn fuan, i gario ei waith ymlaen. Egwyddorwas cryf, a swm gweddol o'i flaen am ei ddysgu, yw y peth iddo ef. Daw o hyd iddo, ond odid. Ond caiff fod hwnnw, am dymor, yn