Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwneud pob peth o chwith. Yn lle taro yr haiarn poeth a meddal, tery yr eingion oer a chaled, nes y bo yr ordd, trwy rym gwrthneidiad, yn ei daro yntau ei hunan yn ol yn ei dalcen, nes y bo, gan synnu, yn rhoi gruddfaniad, ac yn barod, pan ddel ato ei hunan, i roddi y bai i gyd ar yr ordd. Llosga gryn lawer o haiarn, yn lle ei wyniasu. Try ddau ben i fodrwy, yna ceisia ei chydio yn ei chanol. Wrth asio dau haiarn, rhydd yr hwn fo yn ei ddeheulaw yn uchaf ar yr eingion, a thra y byddo ef yn ceisio cael gafael yn y morthwyl, bydd hwnnw wedi syrthio ymaith, a'r holl lafur yn ofer. Gyr lawer o hoelion i'r byw wrth bedoli, nes y bo aml geffyl llonydd, a hen, fel pe byddai ar ei oren yn ceisio tyngu tipyn. Ond yn raddol, daw y gwalch ieuanc i ddysgu tipyn, a dechreua ymlonni pan allo wneud S yn iawn.

Bydd cwmni difyr yn yr Efail, yn fynych. Adroddir yn hyawdl fel y cymerodd merlen flewog, fer, y Ty Draw yn ei phen redeg nerth ei charnau, pan oedd Sionyn Sion yn ei marchogaeth, a'r truan gan Sionyn yn ceisio amddiffyn ei einioes goreu y gallai, trwy ymailyd ag un llaw yn ei chynffon, ac a'r llaw arall yn ei mwng, gan lefain yn groch, a'r ferlen yn ceisio troedio yr awyr, yr hon nis gallai ei chyrhaeddyd, a'r olygia yn parhau, nes y cafodd Sionyn ei hunan o'r diwedd, er ei fawr lawenydd, yn ffos clawdd, heb arno niwaid yn y byd mwy na phe buasai bren mawnog. Traethir yn hylithr hanes ymladdía rhwng Twm William a Deio Llwyd—beth oedd testun yr ymrafael rhwng y ddau, a phwy a gurodd, a pha fodd y bu hynny. Sicrheir fod Sion Parry wedi gweled ysbryd yng nghoed y Glyn, a bod yr ysbryd wedi ymddangos, i ddechreu, fel ei anferth, yna fel eidion mawr, wedyn fel milgi main—ac yna, iddo yn