Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y diwedd fyned ymaith fel olwyn o dân, ac iddi, ar ol hynny, fyned mor dywyll a'r pyg.

Chwerddir am ben un, gwatwerir y llall, tosturir wrth y trydydd, a chanmolir y pedwerydd yn fawr dros ben. Yng nghyfarfodydd yr efail, ceid clywed pwy oedd y darllennwr goreu yn yr ardal, pwy oedd yr ysgrifennydd tecaf ei law, pwy oedd yn deall y gyfraith wladol berffeithiaf, a phwy oedd y cyfoethocaf yn y plwy, a pha fodd y gwnaeth ei arian, pwy oedd y callaf, a phwy oedd y ffolaf yn y wlad. Trinid cyflwr pob ceffyl o fri, pob llwynog a ddiangasai rhag y cwn, pob ysgyfarnog a dwyllasai y milgwn, pob ffwlbart a phob dyfrgi y cawsid trafferth a helbul yn eu dal. Ar ol cyfarfodydd pregethu, trinid achosion y pregethu—beiid rhai, canmolid eraill. Safai John Elias yn wastad ar ben y rhestr, a Williams o'r Wern yn rhywle gerllaw iddo, ac, yn ol barn amryw, yn uwch nag ef. Ceid clywed yn y cyfeillachau hyn pa un oedd y ferch ieuanc falchaf, a'r llanc ieuane mwyaf ffroenuchel a thordyn; y wraig fwyaf diwyd yn yr ardal, a'r gwr mwyaf diles.

Yn gyffredin, bydd y gof a'i lygaid yn ei ben yn ystod cyfeillachau yr efail—bydd ganddo, ond odid, ryw haiarn trwm yn ei dân, a tharawid iddo ddau dwymniad neu dri, gan wyr cedyrn nerthol yn olynol, er boddlonrwydd mawr iddo ef ei hun, ac yn enwedig i'r herlod a fyddai yn chwythu y tân, yr hwn a deimlai ei hunan yn dra ysgafn i beri i haiarn cryf felly ymestyn nemawr dan ei ordd ef. Chwalai y cwmni; ond y mae y gwaith eto heb ei orffen—rhaid ei adael bellach hyd ryw adeg y ceir tararwr cryf arall i'r efail. Dygwyddai drannoeth neu dradwy, feallai, fod gwr cryf yn dyfod gyda deuben o geffylau i'r efail. Canfyddid ef yn dyfod oddidraw. Rhoddid