Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr haiarn cryf yn y tân yn union gan y gof; a cheid help yn hwylus gan y gwr tra y gosodir pedol neu ddwy dan draed y meirch; ond mae y gwaith ar yr haiarn heb ei orffen, ac y mae y ceffylau yn barod i droi tuag adref. Pa fodd y cedwir arweinydd y meirch yn yr efail am dipyn eto yw y cwestiwn yn awr, er mwyn ei gael i daro twymniad arall neu ddau. Rhaid i'r gof ddyfod a'i holl fedrusrwydd allan i sicrhau hynny. Gofyna i'w gymydog am reswm am ryw ymddygiad o'i eiddo fo wedi dyfod yn destun beirniadaeth ar y pryd; a thra y byddo yntau yn egluro, bydd twymniad yn barod, a gyrrir ef allan cyn i'r eglurhad gael ei orffen. Rhoddir yr haiarn yn y tan unwaith eto; a dywedir yn lled ddistaw wrth yr egwyddorwas am chwythu yn gryfach dipyn; ae arweinia y gof y tarawr at rywbeth arall y gwyr am dano, yn yr hwn ni all y tarawydd lai na theimlo cryn ddyddordeb; a bydd yr haiarn yn barod unwaith eto, a cheir help y gwr dieithr i'w yrru allan am y tro diweddaf. Prysura y cymydog ymaith; a gall y gof wneuthur y gweddill yn burion bellach gyda yr herlod sydd yn chwythu y tân. Ond, "Ofer yw taenu rhwyd yn ngolwg pob perchen aden." Byddai ambell lanc cryf yn deall cyfeiriad y cyfan, ac nid oedd modd cadw hwnnw yn y lle wedi iddo gael pethau yn barod. Yr unig ffordd gyda ambell un fyddai gofyn yn dringar iddo a wnai efe aros am yehydig i daro twymniad, er mwyn gwneud cymwynas a'r gof, a'i hogyn ysgafn, a byddai hynny yn debyg o fod yn llwyddiannus yn gyffredin; ond nid peth hyfryd gan feistr yr efail fyddai gofyn cymwynas, os gellid cael yr un peth ryw ffordd naturiol arall.

Os byddai y gof wedi dysgu ei grefft yn dda, yn ddyn ynwyrol, yn sobr, ac yn ddiwyd, mae ei