Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fywyd ef a'r eiddo ei deulu yn un digon dedwydd, ar y cyfan. Os bydd yn ddarllennwr dyfal yn ei oriau hamddenol, yn feddyliwr treiddgar, ac yn llenor coeth, ychwanegir cryn lawer at ei urddas ef ei hunan, a'i efail hefyd. Ond y peth a gorona y cwbl ydyw, ei fod yn grefyddwr da, yn ffyddlon gyda'r Ysgolion Sabbathol, ac heb esgeuluso unrhyw foddion o ras a allo gyrhaeddyd. Os, o'r ochr arall, mai holerwr mewn tafarnau a fydd, yn yfed gormod mewn ffair a marchnad, yn dyfod adref o ddiotai yn hwyr i derfysgu ei deulu, na ddisgwylied y dyn hwnnw lwyddiant iddo ei hunan, na neb a berthyn iddo.

Nid oes neb a ddaw yn feistr ar gelfyddyd heb fod ganddo hyfrydwch mawr yn y gelfyddyd honno. Os na fydd gan ddyn hyfrydwch mewn gweled llif yn brathu ei ffordd drwy goed ac esgyll, ni ddaw byth yn saer da. Yr un modd, os na fydd swn y morthwyl a'r eingion mewn pentref yn fiwsig hyfryd yng nghlust dyn wrth fyned drwodd, ni wna hwnnw byth of da. Mae hyfrydwch yn y gwaith y bo dyn yn ei gyflawni yn brif amod llwyddiant bob amser. Mae gwaith pen a llaw y gof i'w weled yn mhob cyfeiriad, ac ni all gwlad na thref fyned yn mlaen a'i goruchwylion hebddo. Dywedir fod ei fraich ddeau yn ennill nerth wrth arfer ymegnio, ac y mae hynny yn eithaf cywir; ond pan ddywedir fod ei gi wedi cynefino a'r gwreichion, fel nad yw yn eu hofni, camgymerir. Ni welsom ni gi gof erioed a ddeuai yn agos atynt wedi iddo gael prawf o'u gallu un. waith ar ei groen.

Gallasem enwi llawer o ddynion a fuont fyw yn ddedwydd a pharchus yn yr efail wrth ddilyn eu galwedigaeth: a llawer hefyd a ddringasant oddiwrth yr eingion i sefyllfaoedd o enwogrwydd a defnydd-