Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ioldeb mewn gwlad ac eglwys; ond ni oddef nac amser na gofod i ni wneuthur hynny.

Dymuniad yr ysgrifennydd wrth derfynu ydyw, am i'r gofaint, fel dosbarth defnyddiol, fod yn sobr, yn ddiwyd, yn ddarllengar, myfyrgar, a phwyllog, ac yn ofalus am grefydd bersonol, crefydd deuluaidd, a chrefydd gymdeithasol; neu, mewn gair arall, yn dduwiol a defnyddiol mewn pethau pwysicach na phethan y fuchedd hon.

RHYS THOMAS.

Beddargraff a fwriadwyd i'r diweddar Barch. Rhys M. Thomas, Rhes y Cae.

𝕽𝕳YS Thomas oedd was i ddwy—eglwys dda;
Gloes ddofn fu ei ofwy,
A'u pobl ffyddlon haelion hwy
Roes y maen ar Rys Mynwy.

Gweinidog enwog ac anwyl—i Dduw
Oedd ef hyd ei arwyl;
Cafodd a mwynhaodd hwyl,
Hyd ei arch, gyda'i orchwyl.