Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

au, na chwilio i'r mater. Cauwyd drws y swyddfa yn eu herbyn. Yna, rhuthrodd Joseph Jones o Hafod yr Wyn, Pennantlliw Fawr, a Dafydd Owen o Hafod y Bibell, Pennantlliw Bach, a'u hysgwyddau yn erbyn drws y swyddfa, a thorasant ef yn yfflon, a mynasant weled y llyfrau, yng nghanol banllefau y dorf, yna dychwelasant i'w cartrefi. Yn mha sefyllfa y cawsant hwy y llyfrau a'r enwau nid wyf yn cofio; ond nid yw hynny nac yma na thraw yn ei gysylltiad à gwrhydri y ddau wr o Lanuwchllyn.

Cythruddodd y fath hyfder awdurdodau y Bala yn ddirfawr, a danfonasant am fintai o feirchfilwyr i ddal Joseph Jones a Dafydd Owen. Clywsant hwythau fod y meirchfilwyr yn dyfod, ac yr oeddynt ar eu llawn wyliadwriaeth. Yr oedd Dafydd Owen, ar y pryd, yn gwasanaethu yn y Deildref Uchaf, gyda thad a mam yr hybarch Cadwaladr Jones, Dolgellau. Daeth y meirchfilwyr yn fore iawn at y Deildref. Amgylchasant y ty o bob parth, gan feddwl dal Dafydd Owen yn ei wely. Chwiliasant bob congl o'r ty, y cypyrdddan, a than y gwelyau. Gyrasant eu cleddyfau drwy y gwelyau plyf, ac nid oedd y cistiau blawd yn dianc rhag eu harchwiliad, ond y cwbl yn ofer. Yr oedd y pryf y ceisient hwy ei ddal wedi codi o'u blaen, ac wrth y beudy uchaf, yn edrych arnynt yn carlamu at y Deildref. Cymerodd Dafydd Owen y goes yn union, a llechodd mewn gallt goediog a elwir Coed y Graig. Arosai yn ei guddfan y dydd, a denai i'r Graig, Tyddyn yr Onnen, Ty Coch, a'r Ty'n y Bryn, yn y nos, i gael ymborth, ac yr oedd pawb yn barod i roddi nodded iddo, ac ni fynasent, er llawer, iddo syrthio i ddwylaw y milwyr. Aeth y meirchfilwyr i Hafod yr Wyn, ond yr oedd Joseph Jones wedi dianc o'u cyrraedd; ac ar ol car-