Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

lamu i fyny ac i waered ar hyd y ddwy Bennantlliw, dychwelasant i Loegr, dan chwerthin yn eu llewys, heb ddal neb, er iddynt fod, am rai dyddiau, ar hyd y Pennant lliwiau. Cafodd y werin fwy o "chwareu teg" wedi yr ysgarmes a ddarluniwyd.

Parodd y meirchfilwyr eu harswyd yn nhir y rhai byw. Bu dychryn yn lletya ym mynwes Dafydd Owen, i raddau, tra bu fyw, a chyrhaeddodd 90 o oedran, neu drosodd. Rywbryd wedi i'r milwyr ddychwelyd, fel yr oedd Dafydd Owen yn palu gydag un arall ar gae, daeth cymydog a wyddai yn dda am ei sefyllfa, yn ddistaw o'r tu ol iddo, tarawodd ei law ar ei ysgwydd, a dywedodd,— "Yr wyf fi yn eich cymeryd chwi, gwalch. Dychrynnodd y palwr, taflodd ef o'i hyd gyhyd ar y ddaear—trodd y bal o amgylch ei ben, a phlannodd hi yn y pridd o fewn tair modfedd i wddf y cellweiriwr; ond trwy drugaredd, ni niweidiodd ef. Gwawried y dydd y gwneir chwareu teg â phawb, heb i neb ddefnyddio moddion treisiol i'w gael.

ANN MORRIS.

𝕬DWEINAI drefn cadw dynion—a gwyddai
Guddiad cryfder Cristion;
Tynnai ras y tyner Ion,
Lonnaid ei henaid union.

Ei phrofiad,—a pha ryfedd?—oedd lawen,
Oedd loew hyd y diwedd;
Trwy y Gwr llawn trugaredd,
Nid ofnai na'r bai na'r bedd.