Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

JARED: Cewch nen tad annwyl, ond er mwyn daioni peidiwch a chodi siop saer mewn oposisiwn i mi ne mi ewch a ngwaith i gyd, a does fawr o fraster arno fo fel y mae petha. (Tyn Mr. HARRIS ei got hanner oddiamdano.) Cyn i chi drioch llaw setlwch ddadl go boeth sy ar droed yma. Rwan, beth ydi'ch barn chi? Gneud tentia oedd crefft yr Apostol Paul yntê? Fasa Paul yn foddlon i neud tent i anffyddiwr a chablwr?

MR. HARRIS: Fasa Paul yn gneud tent i anffyddiwr a chablwr?

JARED: Ia siwr.

MR. HARRIS: Wel, os oes rhyw werth ynddi, dyma marn i, basa, mi fasa Paul yn gneud tent i'r dyn gwaetha'n y byd, achos dyna ydi crefydd, "os d'elyn a newyna, portha ef."

HOPCYN: Ond fasa Paul yn gneud tent i un o elynion y Brenin Mawr?

MR. HARRIS: Basa, greda i, ac mi fasa wedyn yn mynd at y dyn i'r tent i geisio gneud gwell dyn ohono fo. A chyda llaw mae gen i, fel mae'n digwydd, fater bach yr hoffwn i gael eich barn arno, a barn ffafriol os yn bosib.

JARED: Rwan am dani, Mr. Harris, tra mae'r haearn yn boeth.

MR. HARRIS: Dyma'n agos i fìs er pan ordeiniwyd fi'n weinidog yma, ac fel pob gwas newydd mae gen i gynllun bach y carwn i ei roi o'ch