druan o Martha, byd helbulus gafodd hi, a doeddwn i ddim yn leicio'ch clywed mor lawdrwm ar Nel Davies. Os Dic ydi thad hi, Martha oedd i mam hi. Wel, nos dawch. Mi faria'r drws 'ma ar eich holau.
PAWB (wrth fyned): Nos dawch! (Baria Jared y drws ar eu hol, ac wrth droi i fynd i'r tŷ drwy'r drws ar y chwith gwel Nel yn sefyll yno a shol ar ei phen.)
NEL (gan ddod i'w gyfarfod yn erfyniol): Jared Jones, mae nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ; mi yfodd yn drwm heddiw ac mae o'n gynddeiriog yn i ddiod. Wyddwn i ddim i ble i droi, ond yma y bydda i'n dod am gymwynas. Ga i aros yn y gweithdy ma heno?
JARED: Na chewch ar un cyfri; mi gewch aros yn y tŷ a chan croeso, ond mi gysga i yn y gweithdy; rwy'n hen gynefin a gneud hynny.
NEL: Wn i ddim sut i ddiolch i chi.
JARED: Does dim i ddiolch am dano. Fe wnawn ragor na hyn i ferch Martha'r Wern Lwyd. Anghofia i byth mo'ch mam, a choelia i ddim nad ydach chi'n debig iawn iddi pan oedd hi run oed a chi.
NEL: Ddeydwch chi ddim wrth neb, rwy'n siwr, fod nhad wedi ngyrru allan o'r tŷ heno?
JARED: Mi fyddaf fel y bedd. Mi gewch hyd i'r bwyd yn y gegin a gnewch bryd i chi'ch hun.