Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

DIC: Os bydd eisia rhywbeth arna i wedi dod yn ol, mi gei godi mechan i o dy wely i neud o; does gen ti ddim i neud yn y tŷ ma o fore tan nos ond troi dy fysedd a jantio drwy'r coed. Mi gei godi, my lady, i ddawnsio tendans arna i.

NEL: Fydd hynny ddim yn newydd i mi; rwyf wedi arfer codi bob awr o'r nos i'ch gillwng i'r tŷ.

DIC (yn fygythiol): Dim o glep dy dafod di ne mi gei glywed pwys y nwrn i ar dy wep.

NEL: Fydd hynny chwaith, fel mae gwaetha'r modd, ddim yn newydd i mi: fydd o ddim y tro cyntaf i'ch merch gael llygad du gyno chi.

DIC (cyfyd, o'i eistedd a cherdd yn araf ar draws y a chyfyd ei ddwrn): Mi roi'r ddau mewn mowrning iti'r tro yma, y gnawes styfnig.

NEL: Styfnig! Welwch chi, nhad, does waeth gen i heno am y dwrn yna. Rwyf wedi cadw tŷ i chi ers pan wyf yn cofio a hynny am ddim ond fy mwyd a rhyw dipyn o ddillad rhad. Chwynais i rioed am y driniaeth gefais gyno chi er fod y mywyd i'n galetach na bywyd y slaf isa. Fe'm troisoch dros y drws y noson o'r blaen. Ond marciwch hyn, os cyffyrddwch chi'ch llaw â fi heno, mi wnewch hynny am y tro ola'n eich bywyd.

DIC: Be nei di, sgwn i? Seuthi di fi neu roi di wenwyn yn y mwyd i? Hwyrach y dywedi di wrth y plisman?