Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

chi'n meiddio galw nhad yn lleidr? Ddaethoch chi yma heno i'n galw ni'n lladron?

MR. HARRIS: Na, na! rhoswch funud; peidiwch digio na chamesbonio pethau. Mi wyddoch gystal a finnau nad ydi portsio ddim yn cael ei styried yn beth parchus. Deydwch yn onest, ydach chi'n leicio gweld eich tad yn mynd allan hefo'i wn neu'i rwyd bob awr o'r nos?

NEL (gan betruso): Wel, a deyd y gwir, nac ydw.

MR. HARRIS (yn siriol): Dyna fo'n union, mi wyddwn hynny, ac wrth gwrs y rheswm am hynny ydi—

NEL: Mae gen i ofn bob tro y seuthith y cipar o; ofn i weld o'n dod yn gorff i'r tŷ.

MR. HARRIS: Chreda i mohonoch; nid dyna ydi'ch ofn; yng ngwaelod eich calon fe wyddoch nad ydi o ddim yn gneud yn iawn. Ond mi rydw i'n anghofio'm neges. Dod yma wnes i i'ch gwâdd chi a'ch tad i'r capel rai o'r Suliau nesa. Fyddwch chi ddim yn mynd i unrhyw le o addoliad, fyddwch chi?

NEL: Mi fyddaf yn mynd i ganol y coed neu i lan yr afon ambell i bnawn Sul i glywed yr adar yn canu ac i wrando ar sŵn yr afon ar ben fy hun.

MR. HARRIS: Ia, ond fyddwch chi ddim yn addoli yno?

NEL (yn fyfyriol): Addoli! Beth ydi addoli? Rhy wbeth tebig i hiraeth ydi o, yntê? Mi glywsoch y delyn yn canu wrth gwrs; bob tro y clywa i hi,