MR. HARRIS (yn ddigllon): Doctor Huws! rwyn credu y dylech chi ddeyd be ydi ystyr y cellwair yma; mae'n amlwg mai chi ac nid Jared sydd i'w feio.
JARED: Ruwd annwyl, rydach chi'n edrach yn ddig ofnadwy ar y Doctor—mae pawb ohonoch chi yn edrach yn ddig. Myn gafr! Choelia i ddim na fasach chi'n leicio ngweld i'n sâl bron a marw er gwaetha'ch holl siarad y tri diwrnod diwedda ma. Mae'r esboniad mor eglur a thrwyn Ifan y crydd, ac mi ddylech chi, Mr. Harris, o bawb neidio i ben y gweithdy pan glywch chi o. Dyma fo! tric o eiddo'r Doctor a'r Scweiar a finna i gael Nel Davis yn ol i'r pentre ma.
NEL (â'i dwylo am ei wddf): Rhag cywilydd ichi Jared Jones! Faddeua i byth i chi!
JARED (gan ddal ei breichiau): Mi gadwa'r ddwy fraich yma lle ma nhw. Rwan, frodyr a chwiorydd, a blaenoriaid, doedd dim yn bosib cael yr eneth ma yn ol i'r pentre mewn un ffordd, eri'r Scweiar a'r Doctor neud pob cynnig, gwrthodroedd hi, a gwaeth na'r cwbl fe rybuddiodd y ddau i beidio deyd wrth Mr. Harris y gweinidog ymhle roedd hi yn Llunden. Wel, i fynd ymlaen, be nath y Doctor ma, ac un melltigedig o gastiog ydi o; be nath o ond gofyn i mi ddydd Sadwrn fuaswn ni'n mynd yn sâl iawn dydd Llun, dydd Llun diweddaf