yn synu wrth eu gweled; ac er ei bod yn awr ganol Gauaf, yr oeddwn yn gweled, erys ychydig ddyddiau yn ol, amryw flodau yng ngardd llafurwr, a llwyni gwyrdd drachefn ym mhlanigfa boneddwr ym mron blodeuo! Yr wyf yn cofio cael fy neffröi un bore yr Hâf diweddaf gan gerddoriaeth pêr odlau cantorion y goedwig.
Telorent yn felus i'w Crëwr am awr,
Eu halaw blygeiniol ar doriad y wawr.
Mor hardd hefyd yw y coed pan yn plygu i lawr gan ffrwythau! Ond gwell i mi dewi am brydferthwch Lleyn rhag ofn y byddaf yn codi hiraeth ar rywun am wlad ei enedigaeth.
Beth ddywed Daeareg?
RHAID i'r darllenydd gofio fod gwahaniaeth mawr rhwng Daeareg a Daearyddiaeth. Fel rheol, yr ydys yn cyfyngu yr olaf i roddi i ni y manylrwydd yng nghylch arwynebedd y ddaear, tra y mabwysiedir y flaenaf i olrhain natur y ddaear ei hun, yng nghyda'r cyfnewidiadau yr aeth drwyddynt. Felly, y mae Daeareg yn ein harwain ar unwaith i ddarllen "Llyfr Natur." Un Gyfrol ydyw y Llyfr hwn, ac y mae mor fawr fel nas gall yr un angel ei symmud. Etto, er mai un Gyfrol ydyw, y mae yn llyfr-gell ynddi ei hun, a'r llyfr-gell fwyaf yn yr holl fyd. Un ddalen sydd genyf yn awr o'r Llyfr hynod hwn o fy mlaen, ac y mae yn siarad pethau rhyfedd am Leyn. Dywed wrthym fod y rhan yma o'r ddaear yn hen iawn. Nid awn i sôn am ffigyrau rhag ofn taraw y darllenydd â syndod. Dengys y cymoedd yma ddiwydrwydd deddfau natur am gyfnodau dirifedi. Y mae y creigiau a'r cerryg yn cynnwys y