Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn sydd etto i'w gweled. Y mae ol tân hyd y nod ar y graig ei hun mewn manau. Yr holl bethau hyn a siaradant yr effeithiau yn eu hiaith, a dyledswydd dyn yw eu gwrandaw a'u myfyrio.[1]

Mor Mynydd y Rhiw.

ODDIWRTH yr hyn a ddywedwyd yn flaenorol ar bwys y ffeithiau rhyfedd y mae Daeareg yn eu dysgu i ni, yr ydym yn cael ein harwain i gredu. mai Etna, neu Vesuvius y parthau hyn yn yr hen amseroedd oedd y mynydd hwn; ac y mae yr enw ofnadwy a roddir ar y môr sydd gerllaw yn ffafrio y golygiad hwn. Os trowch i'r Dudlenas, chwi welwch mai" Porth Nigel" y gelwir ef, ond yr hen enw yw "Safn Uffern," ac wrth yr enw hwn yr adnabyddir ef gan y trigolion hyd y dydd heddyw. Hawdd cael allan fod y blaenaf wedi ei gymmeryd oddiwrth Nigel de Lohareyn, Penystafellydd y Tywysog Du, ond pa fodd y cafodd yr olaf sydd destyn ymchwiliad. Dywed yr anllythyrenog wrthym y gelwir ef yn "Safn Uffern" am ei fod yn lle peryglus i forwyr, ac felly yn dwyn ar gof i ni Scylla a Charybdis yr hynafiaid, gyda'u trobwll a'u harswydfeydd rhwng Etna a Vesuvius. Etto, rhaid i ni gofio fod yr enw "Safn Uffern" yn hen iawn, efallai yn hynach na'r môr ar y llecyn hwn. Os yw ein syniad am Fynydd Tanllyd ar yr ysmotyn yn gywir, fel y profa Daeareg, Beth sydd yn fwy naturiol na chlywed fod y fan yn cael ei alw yn "Safn Uffern?"


  1. Barnwn fod natur holl wythienau y telidfaen (manganese) gerllaw yn profi yr un peth.