Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ffynfa yr hên "Deyrn," o'r hon yr oedd yn gwarchod ei eiddo, ac yn ymladd yn erbyn y gelyn pan yr oedd y byd a'i fryd ar ysbail y clêdd a'r bidog.

Ym mhellach, oddiwrth yr archwiliad manwl a wnaethom, deallwn fod lluaws o'r hên Eglwysi yn Lleyn, os nad y mwyafrif, wedi cael eu hadeiladu naill ai yn, neu ynte gerllaw yr hên Amddiffynfeydd, fel y gwelwn yma. Felly yr oedd Capel Gwerthyr, Llandinwal, a Chapel Anwes Bryn—y—Gaer. Aci gadarnhau hyn etto, crybwyllwn fod Capel Odo yn ymyl Amddiffynfa Mynydd—yr—Ystum, Llangian gerIlaw Amddiffynfa Pen—y—Gaer (ac efallai fod Amddiffynfa ar y tŵyn yr ochr arall uwchlaw y Llan), Eglwys Aelrhyw gerllaw Amddiffynfa Mynydd—yRhiw, Llaniestyn islaw Amddiffynfa Carn Madryn, Llanengan ddim ym mhell o Gastell Cilan, Eglwys Sant Cwyfan yn Tydweiliog gerllaw Amddiffynfa Ddifwlch Cefn Ammwlch (=An—mwlch), yr hon oedd ar dir Pwllgwd, mewn lle a elwir hyd heddyw PENYR—ORSEDD,[1] Eglestadell gerllaw Castell Crwn, a Chapel Cyndal yn ymyl Amddiffynfa Lleiniau—yrYmryson, Eglwys Enlli yng nghanol caer o ddwfr. Credwn fod yn y cyfanswm a osodir i lawr yma ddigon o brofion i farnu fod Eglwys Meyllteyrn fel y gweddill dan nawdd hên Amddiffynfa Teyrn—y—Foel, ac wedi cymmeryd ei henw oddi wrtho.

O. Y.—Gwyddom y sonia Llywarch Hên yng ngherdd "Dynawd" am "Melhyrn," ond methwn ei wneyd yr un â'r Meyllteyrn dan sylw.

GWYL ST. BARTHOLOMEUS.—Nid oes eisiau dywedyd mai yr un yw y Bar Tolmai hwn a Nathanael, a'i fod yn un o'r Apostolion, ond teimlwn rwymedigaeth i son am y Gyflafan echryslawn a gyflawnwyd ar

  1. Diau fod "Pen-yr-Orsedd" yma yn yn gyfystyr â "BrynCell—Ioan"="Cronk-y-Keillown," neu "Tynwald Hill" Ynys Manaw, lle y cyhoeddir cyfreithiau y wlad bob amser.