Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/184

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ddydd bythgofiadwy ei Wyl, sef y Pedwerydd—Dyddar—Ugain o Awst, 1572, pan y lladdwyd miloedd ar filoedd o Gristionogion yn Ffrainc, yn ol gorchymyn y brenhin pabyddol Charles IX., yr hwn, mewn canlyniad, ar ei Wely Angeu a gyffescdd wrth ei feddyg ei fod yn clywed yng nghwsg ac effro ruddfanau torcalonus y dorf a lofruddiodd yn ei felldithio, a'i fod yn gweled eu gwynebau yn yr awyr yn ei ddirmygu, a'u gwaed yn yr heolydd yn ei gondemnio yn niwl y glyn.

Ar bwys ffeithiau sobr a difrifol o'r fath yma, nid oes yr un genedl yn feddiannol ar fwy o gydymdeimlad na'r Cymry. Gwelsom yn ddiweddar yn Lleyn adlun (copy) o hên ddarlun ardderchog yn gosod allan y dull yr oedd ein cyndadau yn cadw yr Wyl uchod yn 1648. Ystyriem ei fod yn adlewyrchu o'n blaen gryn lawer o “Gymru Fu," gan yr ymddangosai y cymdeithion dywenydd yn dra urddasol a thywysogaidd yn hen wisgoedd y clôs—pen—lin, y siaced gôch, a'r grysbais wlanen, gyda'u cyrn caboledig, eu cleddyfau yn crogi wrth eu gwregys, a gwrid rhosynaidd y gwaed Cymreig yn argraphedig ar eu gruddiau. Etto, yn eu duwiolfrydedd, yr oedd yr olwg arnynt mor sobr â'r Ddau Angel wrth y Bedd.

BOTTWNOG Bod=tŷ + twnog=Gwyddelaeg, tun= Ice. tun==A.S. tun—ton=Eng. town=downs=Cant. dunas Germ. Zaun; ac nid oes amheuaeth nad y meddwl cyntaf a rêd fel edefyn aur drwy y gwraiddeiriau Celtaidd hyn yw Lle-wedi-ei-gau-i-fewn. Felly, yn unol â hên drefniadau o amgaeru gwersylloedd ym mhlith y Cymry, gan fod—og yn olddawd twnog yn ei wneuthur yn ansoddair, golygwn mai yr ystyr yw—Bod Amddiffynol.

CADAIR LLEWELYN. — Mesura ei chefn dair-modfedd-ar-ddeg-ar-ugain ar draws; y mae ei breichiau yn bedair—modfedd—ar—ugain o hyd; ei sêdd yn ddeg-